Skip to main content

Dathlu llwyddiant ein myfyrwyr addysg uwch

Bob blwyddyn, rydym yn dathlu llwyddiant ein myfyrwyr addysg uwch gweithgar wrth iddynt gwblhau eu rhaglenni lefel uwch.

O reoli digwyddiadau i beirianneg ac o iechyd a gofal i dechnoleg gyfrifiadurol, dylai myfyrwyr addysg uwch ar draws pob cwrs fod yn falch iawn o’u gwaith caled a’u hymroddiad sydd wedi eu helpu i gyflawni eu cymwysterau yn llwyddiannus.

Mae graddio yn achlysur arbennig lle mae myfyrwyr yn gallu dathlu eu llwyddiant anhygoel gyda theulu, ffrindiau, cyflogwyr a staff y Coleg. Rydym yn benderfynol o roi’r profiad graddio y mae pob un o’n myfyrwyr yn ei haeddu pan fyddwn yn gallu cynnal digwyddiad o’r fath, yn y dyfodol.

Am y tro, rydym eisiau dathlu eu llwyddiant yn ystod yr hyn a fyddai wedi bod yn wythnos graddio, 8-12 Tachwedd 2021, gyda thudalen we ddynodedig sy’n dangos storïau graddedigion, negeseuon llongyfarch gan staff a fideo gan y Pennaeth, Mark Jones.

“Mae eleni wedi bod yn gyfnod heriol arall i fyfyrwyr addysg uwch wrth iddyn nhw barhau i lywio llanw a thrai yr hinsawdd sydd ohoni,” dywedodd Ryan Jarvis, Rheolwr Addysg Uwch y Coleg. “Ond, mae eu hymrwymiad i’w hastudiaethau yn ystod y cyfnod hwn wedi bod yn rhagorol a dylen nhw i gyd fod yn falch iawn o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni ar hyd y ffordd.”

Ychwanegodd y Pennaeth, Mark Jones: “Hoffwn i ddymuno’n dda i’r holl fyfyrwyr addysg uwch ym mha bynnag peth maen nhw’n penderfynu ei wneud. O sicrhau gyrfa ddelfrydol, i weithio gydag arbenigwyr blaengar mewn maes astudio neu ddiddordeb penodol, rydyn ni’n falch iawn o weld y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr addysg uwch yn dilyn eu llwybrau tuag at lwyddiant yn y dyfodol.”

Ewch i’n tudalen we Dosbarth 2021 i gael rhagor o wybodaeth a sut i gymryd rhan yn ein hwythnos o ddathliadau.


Ar ôl cwblhau eu rhaglenni lefel uwch, mae ein graddedigion yn barod ar gyfer y cam nesaf. Ystyried gwneud yr un peth?            

Rhagor o wybodaeth https://www.gcs.ac.uk/cy/higher-education