Skip to main content

Dim Ond Ni - Myfyrwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol yn agor arddangosfa o'u gwaith

Ym mis Ionawr 2015, dechreuodd Oriel Gelf Glynn Vivian, fel rhan o'i rhaglen ysgolion uwchradd 4Site, brosiect 10 wythnos gyda grŵp o fyfyrwyr o Adran Sgiliau Byw'n Annibynnol, Coleg Gŵyr Abertawe.

Ar gampws Tŷ Coch Coleg Gŵyr Abertawe, mae'r adran yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau wedi'u haddasu i fyfyrwyr ag anghenion dysgu arbenigol.

Mae'r arddangosfa Dim Ond Ni yn canolbwyntio ar y gwaith mae'r myfyrwyr wedi'i greu yn ystod y prosiect ac mae'n seiliedig ar thema Hunaniaeth. Y nod oedd tynnu cipluniau o'u bywydau unigol a'u personoliaethau eu hunain. I'w helpu i gyflawni hyn, mae'r grŵp wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r artist Anna Barratt a'r tîm dysgu yn Oriel Gelf Glynn Vivian.

Er nad yw'r myfyrwyr yn fyfyrwyr celf amser llawn, maen nhw wedi llwyddo i ddangos eu gallu i greu gwaith celf cyfoes, diddorol ac ystyrlon.

Mae'r arddangosfa'n agor am 1pm yn yr Ystafell Wen yn Theatr y Grand, Abertawe ddydd Mawrth 24 Mawrth. Bydd ar agor i'r cyhoedd 10am - 5pm tan ddydd Gwener 27 Mawrth.

Lansiodd Oriel Gelf Glynn Vivian raglen ysgolion uwchradd 4Site yn ôl ym mis Ionawr 2014. Nod y rhaglen yw rhoi cyflwyniad anffurfiol a chyffrous i ddisgyblion ac athrawon i'n horiel gelf yn y ddinas trwy'r arddangosfeydd cyfoes a hanesyddol, casgliad yr oriel, a rhannu hanes yr oriel a'i sefydlwr, Richard Glynn Vivian. Cyflwynir y rhaglen gan ymarferwyr cyfoes, proffesiynol o bob disgyblaeth, gan gynnwys paentio, cerddoriaeth, drama a cherflunio.

Mae rhaglen ysgolion uwchradd 4Site Oriel Gelf Glynn Vivian wedi datblygu ac, erbyn hyn, rydyn ni'n gweithio gydag ysgolion uwchradd dethol ar brosiectau penodol. Roedd gan fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe, fel grwpiau ysgolion eraill, dymor i gwblhau prosiect o'u dewis gydag artist.

Mae'r oriel yn gweithio mewn partneriaeth ac ymgynghoriad â'r athrawon a'r myfyrwyr i ddarparu canlyniadau o safon i bawb sy'n cymryd rhan.

Cyn ailagor yr oriel, rydyn ni'n ystyried newid a datblygu'n rhaglen ysgolion uwchradd ymhellach, felly os oes gennych syniad ar gyfer prosiect, mae croeso i chi gysylltu â ni am drafodaeth.

Hyn a hyn o leoedd sydd ar gael, a'r cyntaf i'r felin gaiff y rhain.   

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y cynllun a hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth gychwynnol, ffoniwch Charlotte Thomas ar 01792 516900, neu e-bostiwch Charlotte.Thomas@swansea.gov.uk

DIWEDD

Nodyn i'r Golygyddion:

Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn rhan o Ddinas a Sir Abertawe ac wedi'i chefnogi trwy grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Theatr y Grand, Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ.

Os hoffech dderbyn yr wybodaeth hon mewn fformat arall, cysylltwch â'r oriel.