Skip to main content
Logo'r Coleg

Profion covid myfyrwyr a staff – y diweddaraf

Fel y byddwch chi’n gwybod, mae Llywodraeth Cymru bellach wedi codi’r rhan fwyaf o gyfyngiadau covid-19 ac rydyn ni’n symud yn araf yn ôl i fywyd fel yr oedd cyn y pandemig.

Fodd bynnag, dylai ysgolion a cholegau barhau i weithredu gan ddilyn y mesurau iechyd a diogelwch sydd eisoes ganddynt. Bydd hyn yn helpu i sicrhau y gallwn ni barhau i addysgu pawb.

Symptomau covid
Os bydd aelod o staff neu fyfyriwr yn dangos symptomau covid, dylai wneud prawf llif unffordd cyn dod i’r Coleg. Felly rydyn ni’n annog staff a myfyrwyr i gadw cyflenwad o brofion llif unffordd gartref.

Mae profion llif unffordd ar gael i staff a myfyrwyr yn llyfrgelloedd y Coleg yng Ngorseinon a Thycoch a’r derbynfeydd yn Llwyn y Bryn, Plas Sgeti a’r Hyb Cyflogaeth yn Ffordd y Brenin. 
 
Os bydd aelod o staff neu fyfyriwr yn cael canlyniad prawf covid positif, rhaid iddynt hunanynysu ar unwaith a dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar hunanynysu. Mae hyn yn cynnwys rhoi gwybod i’r Coleg:

Staff: Swyddfa’r gyfadran a/neu Adnoddau Dynol
Myfyrwyr: Swyddog Gweinyddol Covid covid@coleggwyrabertawe.ac.uk 
Yn ogystal, dylech chi gyfeirio at Fwletin Wythnosol Covid CGA.

Mesurau diogelwch parhaus
Rydyn ni’n annog staff a myfyrwyr i barhau i wneud y canlynol:

  • Golchi a diheintio eu dwylo
  • Gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cymunol (oni bai eich bod wedi’ch eithrio)  
  • Cadw pellter corfforol oddi wrth bobl eraill. 

Ein nod yw sicrhau y gallwn ni barhau i ddarparu dysgu ac addysgu o safon uchel fel rydyn ni wedi’i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf, a’ch cadw yn ddiogel tra byddwch ar y campws.