Skip to main content

Diweddariad gan y Pennaeth, Mark Jones (10 Mawrth)

Mae’r cyhoeddiad diweddaraf gan y Gweinidog Addysg yn rhoi cyfle i ni adeiladu ar waith da’r wythnosau diwethaf ac i ddod â mwy o fyfyrwyr yn ôl ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb o ddydd Llun 15 Mawrth.

Rydym bellach yn gallu dod â mwy o fyfyrwyr galwedigaethol i mewn i feysydd dysgu lle mae asesiadau ymarferol ar ôl i’w gwneud, ac mae hefyd yn golygu y gallwn ddod â myfyrwyr Safon Uwch yn ôl y mae angen iddynt baratoi ar gyfer asesiadau.

Byddaf yn esbonio isod y trefniadau y mae angen i ni eu rhoi ar waith ar gyfer myfyrwyr.

Beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr?
Rhwng dydd Llun 15 a dydd Gwener 26 Mawrth, bydd cadw pellter cymdeithasol o ddau fetr yn parhau ar draws y Coleg cyfan. Ni fydd swigod dosbarth ar waith, sy’n golygu felly y byddwn yn gweithredu gyda dosbarthiadau llai o faint. Bydd y rhain yn cael eu cydbwyso â thasgau astudio annibynnol ynghyd â sesiynau sgwrsio a chymorth.

Bydd myfyrwyr Safon Uwch yn dychwelyd am dri neu bedair sesiwn hanner diwrnod (yn dibynnu ar nifer y pynciau sy’n cael eu hastudio) yn ystod y pythefnos hwn.

Bydd tiwtoriaid cwrs yn cysylltu â myfyrwyr galwedigaethol a fydd yn rhoi dyddiad penodol i ddod i’r Coleg. Sesiynau diwrnod llawn fydd y rhain.

Byddwn yn cysylltu â phob myfyriwr yn unigol i’w hysbysu yn union pa ddyddiau ac amserau y dylai ddod i’r Coleg.

Bydd myfyrwyr rhan-amser yn ogystal â’r rhai sy’n astudio rhaglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol, Mynediad ac ESOL yn parhau â dysgu ac addysgu ar-lein nes bydd hyn yn cael ei adolygu ar ôl gwyliau'r Pasg. Rydym ar hyn o bryd yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer myfyrwyr addysg uwch.

Beth am gludiant?
I’n myfyrwyr sy’n mynychu Campws Gorseinon, bydd cludiant ychwanegol wedi’i drefnu ar gyfer teithiau casglu a dychwelyd i gefnogi’r amserlenni hanner diwrnod. Ar gyfer y campysau eraill, bydd cludiant cyhoeddus ar waith, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio’ch taith ymlaen llaw.

Cymorth a sgwrs
Yn y Coleg, bydd myfyrwyr yn cael cyfle i sgwrsio â’u darlithwyr a staff eraill. Gallwn nodi unrhyw bryderon, datrys unrhyw broblemau TG, cynllunio ar gyfer asesiadau a chefnogi cyfleoedd dilyniant hefyd yn barod ar gyfer mis Medi.

Arlwyo
Bydd yr holl fyfyrwyr yn cael pecyn cinio am ddim pan fyddant yn dod i’r Coleg.

Iechyd a diogelwch
Bydd disgwyl i’r holl fyfyrwyr ddilyn rheolau a gweithdrefnau’r Coleg i sicrhau iechyd a diogelwch pawb. Gwyliwch y fideo hwn, syn amlinellu’r canllawiau diweddar.

Profion llif unffordd
Bydd myfyrwyr yn cael cynnig pecyn pedair wythnos o gitiau i gynnal prawf llif unffordd gartref pan fyddant yn dychwelyd i’r Coleg. Nid yw’r citiau hyn yn orfodol ac nid yw’n ofynnol i fyfyrwyr gymryd a defnyddio’r profion cartref i ddychwelyd i’r Coleg.

Arholiadau ac asesiadau
Yn ddiweddar rydym wedi cael diweddariad cychwynnol gan Gymwysterau Cymru am y trefniadau ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch, Tystysgrif Her Sgiliau a chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru ond mae angen eglurder pellach ac mae hyn yn cael ei geisio ar frys. Byddem yn gobeithio gallu rhannu hyn gyda chi pan fyddwch yn dychwelyd i’r Coleg.

Fel yr amlinellais uchod, bydd y trefniadau hyn ar waith rhwng dydd Llun 15 a dydd Gwener 26 Mawrth. Y gobaith yw, ar ôl y Pasg, y byddwn yn gallu dychwelyd i’r trefniadau a oedd ar waith yn y tymor cyntaf. Fodd bynnag, bydd angen cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i wneud hyn ac o’r herwydd ni ellir cadarnhau hyn ar hyn o bryd. Hyderwn y byddwch yn deall y rhesymau dros hyn.

Mae croeso i chi gysylltu â’ch tiwtor os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, neu gallwch anfon e-bost i info@gcs.ac.uk a gallwn gyfeirio’ch neges. Yn ogystal, gallwch gadw i fyny â'r wybodaeth ddiweddaraf drwy fynd i'n tudalen we Covid-19.

Rydym yma i’ch helpu cymaint ag y gallwn.

Mark Jones
Pennaeth