Skip to main content

Dysgwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn disgleirio mewn digwyddiad Dyfodol Creadigol

Cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad Dyfodol Creadigol cyffrous ar ddydd Iau, 23 Mawrth, gan ddod â ffasiwn, gwallt a harddwch, colur a cherddoriaeth ynghyd mewn arddangosfa. Cynhaliwyd y digwyddiad ar Gampws Tycoch ac roedd myfyrwyr o Ysgol yr Esgob Gore, dysgwyr o’r Coleg, rhieni a gwesteion yn bresennol. 

Trefnwyd y digwyddiad ar y cyd rhwng dysgwyr o wahannol rannau o’r Coleg. Myfyrwyr Celfyddydau Cynhyrchu oedd yn gyfrifol am drefnu’r llwyfan a rheoli’r sain a’r golau, ac fe wnaeth myfyrwyr Gwallt a Cholur baratoi’r modelau ar gyfer y catwalk. Diddanodd myfyrwyr Perfformio Cerdd y gynulleidfa trwy berfformio cyfansoddiadau gwreiddiol ac fe wnaeth myfyrwyr Celf a Dylunio arddangos eu dillad ffasiwn gynaliadwy a grëwyd o hen ddenim, yn ogystal ag arddangos eu prosiectau buddugol yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru

Cafodd y rhai oedd yn bresennol gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai blasu ym mhob un o’r meysydd er mwyn cael mewnwelediad i yrfaoedd, a chawsant hefyd sgyrsiau am yrfaoedd creadigol. 

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe enw da am gynnig ystod eang o gyfleoedd i fyfyrwyr fel y gallant ddatblygu eu sgiliau a’u creadigrwydd. Roedd y digwyddiad hwn yn un o’r amrywiaeth eang o ddigwyddiadau y mae’r Coleg wedi’u cynnal i arddangos dawn ein dysgwyr, rydym hefyd wedi cynnal sawl arddangosfa gelf. 

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dyfodol creadigol? Gwnewch gais heddiw i astudio un o’n cyrsiau amser llawn sy’n dechrau ym mis Medi.