Skip to main content
Freshers’ Fayres welcome new students to College

Ffeiriau’r Glas yn croesawu myfyrwyr newydd i’r Coleg

Cafodd myfyrwyr newydd gyfle i ddysgu mwy am fywyd campws yn ystod Ffeiriau’r Glas yng Ngorseinon a Thycoch.

“Mae Ffeiriau’r Glas yn gyfle gwych i groesawu myfyrwyr newydd i'r coleg,” dywedodd Tom Snelgrove, Rheolwr Profiad a Lles y Dysgwr. “Maen nhw’n gallu dod i adnabod ei gilydd, casglu gwybodaeth ddefnyddiol, ymuno â chlybiau a thimau chwaraeon a chael cynnig ar y gweithgareddau niferus sydd ar gael. Dwi wrth fy modd bod cynifer o sefydliadau lleol wedi ein cefnogi unwaith eto trwy ddod i’r digwyddiad eleni. Dwi hefyd yn falch iawn bod gyda ni gerddorion a pherfformwyr mor wych yma i'r myfyrwyr eu mwynhau.”

Yn ogystal â setiau acwstig byw gan The Ferns, Sarah Lewis-Meredith, Ilia James a Flynn Forgeau, cafodd myfyrwyr gyfle i ymuno â chlybiau a gweithgareddau coleg gan gynnwys academïau chwaraeon, digwyddiadau menter, grwpiau Cymraeg a Phrosiect Addysg Gymunedol Cenia.

Roedd uchafbwyntiau eraill yn cynnwys set fyw gan y troellwr Daley Bee a’r swynwr agos Adam Reeves.

Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol roedd Heddlu De Cymru, Barod, EYST, YMCA, UCM, Ymddiriedolaeth Terrence Higgins, Roots, Travel Line Cymru, Safer Driving Swansea, Gofalwyr Ifanc Abertawe, Cymorth i Fenywod Abertawe/CHAT, GIG, Pride Cymru a Gyrfa Cymru.

Lluniau: Peter Price Media