Skip to main content
Text reads Beacon Awards Commended

Canmoliaeth Coleg Gŵyr Abertawe yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC)

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei ganmol am ei arferion gorau a’i harloesed mewn dau chategori gwahanol yng Ngwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AoC) 2022/23.

Mae Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau yn gyfle i ddathlu arferion mwyaf arloesol Colegau’r DU. Cyflwynir y gwobrau yn flynyddol gan AoC er mwyn cymeradwyo ardderchowgrwydd a chydnabod doniau staff ar bob lefel. Mae’r gwobrau yn amlinellu ehangder ac ansawdd addysg yn y sector Colegau.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gymeradwyo gan y gwobrau isod:

  • Gwobr City & Guilds ar gyfer Ymgysylltiad Colegau â Chyflogwyr, a noddir gan City & Guilds, sy’n cydnabod arferion rhagorol o ran diwallu / ymateb i anghenion cyflogwyr.
  • Gwobr y Cyngor Prydeinig am Ryngwladoldeb, a noddir gan y Cyngor Prydeinig, sy’n cydnabod enghraifft o waith rhyngwladol rhagorol Coleg.

Dysgwch fwy am waith rhagorol y colegau cymeradwy trwy eu crynodebau prosiect sydd ar gael ar wefan Gwobrau’r Colegau. Cyhoeddir y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng Nghynhadledd Flynyddol yr AoC ar Ddydd Mawrth 15 Tachwedd.

Cymdeithas y Colegau (AoC) – www.aoc.co.uk