Gwobrau Blynyddol Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe 2018


Diweddarwyd 19/06/2018

Mae ein myfyrwyr rhagorol wedi cael eu hanrhydeddu yn seremoni Gwobrau Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe 2018.

Cynhaliwyd y seremoni yn Stadiwm Liberty, gyda’r enillwyr yn cynrychioli pob agwedd ar fywyd y coleg o letygarwch, busnes a chelf i ieithoedd a gofal.

Roedd troellwr Sain Abertawe Kevin Johns MBE wedi cyflwyno’r seremoni, lle cafodd myfyrwyr eu hanrhydeddu am eu llwyddiannau academaidd a phersonol, ac roedd siaradwr gwadd wedi ymuno ag ef hefyd – yr anturiaethwr, yr awdur a’r cyflwynydd teledu Tori James.

“Mae Coleg Gŵyr Abertawe bob amser wedi cael un o’r proffiliau gorau ymhlith unrhyw sefydliad addysg,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Cyflawnwyd hyn i gyd o ganlyniad i ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol ein myfyrwyr - pob un o’r 15,000 ohonynt bob blwyddyn– a’n staff, ac mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddathlu eu llwyddiant a thalu teyrnged i’r ‘goreuon’.”

Rhestr lawn Myfyrwyr y Flwyddyn 2018:

Y Celfyddydau Creadigol – Luke Macbride
Y Celfyddydau Gweledol – Richard Brandweiner
Addysg Sylfaenol i Oedolion/ESOL – Zaman Safar
Y Dyniaethau ac Ieithoedd – Kathryn Percy
Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddor Gymdeithasol – Thomas Park
Technoleg – Callum O’Connor
Iechyd a Gofal – Alex Davies
Busnes – Demi Lee Clement
Iechyd a Gofal – Chloe Houlton
Lletygarwch, Teithio a Thwristiaeth – Collette Gorvett
Sgiliau Byw’n Annibynnol – Aaron Lockhart
Plymwaith ac Adeiladu - Abdullah Khorsand
Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus – Danielle Jones
Peirianneg – James Williams
Hyfforddiant GCS  – Helal Uddin
Prentis – Mariusz Gawarecki
Rhyngwladol – Heinrich Song
Cymraeg – Kim Fermandel
14-16 – Shannon Carr
Addysg Uwch/Mynediad – James Sweeney
Llwyddiant Rhagorol Chwaraeon – Patrick Langdon-Dark
Partner Cyflogwr – Cyngor Abertawe

Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn – Chloe Houlton

Roedd y digwyddiad yn arddangosfa ymarferol ar gyfer talent myfyrwyr hefyd, gyda’r adloniant yn cael ei ddarparu gan fyfyrwyr y Celfyddydau Perfformio a Cholur Ffotograffig. Roedd myfyrwyr Lefel 3 Theatr Dechnegol wedi darparu’r set a’r sain ac roedd yr addurniadau hardd ar y byrddau wedi cael eu creu gan ein myfyrwyr Blodeuwriaeth.

DIWEDD

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cydnabod ac yn ddiolchgar i’w noddwyr am Wobrau Blynyddol Myfyrwyr 2018: RW Learning; First Cymru; Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant; WalesOnline; CBAC; Aston & Fincher; The Wave; Mark Jones; Academi Iechyd a Llesiant Prifysgol Abertawe; Blake Morgan; Vibe Live; South Wales Transport, Cartref Gofal Hengoed; ComputerAid; RDM Electrical and Mechanical Services; Tongfang Global; Partneriaeth Sgiliau Prifysgol a Choleg; TRJ; Track Training a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Lluniau: Peter Price Media

Tags: