Skip to main content
Gwobrau Rhithwir yn dathlu prentisiaid a chyflogwyr

Gwobrau Rhithwir yn dathlu prentisiaid a chyflogwyr

I ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2021, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi trefnu rhaglen wythnos o ddigwyddiadau a gweithgareddau rhithwir o ystafelloedd sgwrsio byw a sesiynau gwybodaeth i weminarau a thiwtorialau YouTube rhad ac am ddim.

Un elfen bwysig iawn o ddathliadau’r Coleg yw’r Gwobrau Prentisiaeth Rhithwir, a gynhelir ar draws Twitter a LinkedIn yr wythnos hon, ac sydd â’r nod o dynnu sylw at oreuon y prentisiaid, y cyflogwyr a’r aseswyr gorau.

“Oherwydd y cyfyngiadau presennol, dydyn ni ddim yn gallu cyflwyno ein gwobrau yn y ffordd arferol eleni ond roedden ni’n gwbl benderfynol o nodi’r achlysur yn y ffordd orau bosib,” dywedodd y Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes, Paul Kift. “Mae’r gwobrau rhithwir wedi tynnu sylw at storïau llwyddiant a chyflawniad ar draws ein llwybrau prentisiaeth – o gyfrifeg a TG i wyddoniaeth labordy – ac wedi’u haddysgu ledled Cymru a Lloegr.

“Rydyn ni’n falch iawn o waith caled a dycnwch ein prentisiaid, ein cyflogwyr a’n staff sydd bob amser yn creu argraff arnon ni ond, eleni yn fwy nag erioed, roedden ni wir am dalu teyrnged iddyn nhw. Er nad ydydn ni’n gallu bod gyda’n gilydd, rydyn ni’n teimlo ei bod hi’n hollbwysig anrhydeddu eu llwyddiannau a dathlu eu doniau a’u hymroddiad.”

Neges arbennig o longyfarchiadau gan ein Pennaeth, Mark Jones

Dyma enillwyr 2021 yn llawn:

Prentis y Flwyddyn Cyfrifeg – Georgia Harris, Azets Holdings 
Prentis y Flwyddyn Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol – Alina Klinka, Luke Main 
Prentis y Flwyddyn Gosod Brics – Chris Lafferty, Green’s Carpentry & Building Services Ltd
Prentis y Flwyddyn Technegau Gwella Busnes – Christopher Rock, JBT Aerotech UK
Prentis y Flwyddyn Gweinyddu Busnes – Sarah Hawker, St Mary and St Patrick Catholic School 
Prentis y Flwyddyn Gwaith Coed – Kim Smitham, John Weaver
Prentis y Flwyddyn Gofal Plant – Ruby Hitchings, Appletree Nurseries
Prentis y Flwyddyn Canolfan Gyswllt – Helen Tapp, DVSA 
Prentis y Flwyddyn Gweithrediadau Adeiladu – Thomas Shaw, Lewis Civil Engineering 
Prentis y Flwyddyn Sgiliau Adwerthu – Samantha Rose Lewis, The Gamers' Emporium
Prentis y Flwyddyn Gwasanaeth Cwsmeriaid – Carly Barber, Complete Cover Group
Prentis y Flwyddyn Trydanol – Philip Taylor, Devios Interiors
Prentis y Flwyddyn Electroneg – Rhys Watts, Coleg Gŵyr Abertawe
Prentis y Flwyddyn Peirianneg – Lewis Nekrews, Caerbont Automotive
Prentis y Flwyddyn Rheoli Cyfleusterau – Rhian Williams, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Prentis y Flwyddyn Trin Gwallt – Harley Martone, Stacy Yunen Aveda
Prentis y Flwyddyn Iechyd a Gofal Cymdeithasol – Lee Esqulant, Social Services
Prentis y Flwyddyn Tai – Kirsty Welch, Melody Blackwell Jones
Prentis y Flwyddyn TG/Digidol – Kathryn Banfield, Coastal Housing
Prentis y Flwyddyn Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd – Michaela Janes,  Heddlu Dyfed-Powys
Prentis y Flwyddyn Labordy a Gwyddoniaeth – Joshua Barlow, Prifysgol Abertawe
Prentis y Flwyddyn Arweinyddiaeth a Rheolaeth – Wilnelia De Jesus, Greenaway Scott 
Prentis y Flwyddyn Cerbydau Modur – Sam Morgan, RTEC Garages
Prentis y Flwyddyn Peintio ac Addurno – Caitlin Scott, Whiterock Decorators
Prentis y Flwyddyn Plymwaith – Callum Bolton, Advanced Heating (Wales) Ltd
Prentis y Flwyddyn Diogelwch – Shane Rundle, Beacon Detection 

Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn (0-49 o weithwyr) – Door Fabrications 
Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn (50-249 o weithwyr) – AMSS / JBT 
Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn (250+ o weithwyr) –  Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Tiwtor/Aseswr Prentisiaeth y Flwyddyn – Andrew Huball 

Gwobr Arloesedd Prentisiaeth – Henshaws 

Lloegr – Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn – University Hospitals Bristol and Weston NHS Foundation Trust 
Lloegr - Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn – Airways Optical 
Prentis y Flwyddyn Rheoli Cyfleusterau (Lloegr) – Russell Knowles
Prentis y Flwyddyn Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth (Lloegr) – Caroline Waring 
Prentis y Flwyddyn Arweinyddiaeth a Rheolaeth (Lloegr) – Malgorzata Pajak 
Prentis y Flwyddyn Technegau Gwella Busnes (Lloegr) – Edita Rimydyte 

Gwobr Cyflawniad Eithriadol Prentisiaeth – Rhys Watts, Coleg Gŵyr Abertawe 

***

Hoffai Coleg Gŵyr Abertawe ddiolch i’w bartneriaid cyflenwi, mae’r rhain yn cynnwys: Arc Group UK, Big Learning Company, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Mudiad Meithrin, Track Training, XR Training and Consultancy.