Skip to main content
I ffwrdd â ni i rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills!

I ffwrdd â ni i rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills!

Mae naw myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe gan gynnwys myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr wedi cyrraedd y rowndiau terfynol cenedlaethol yn WorldSkills UK, gan ei gwneud hi’n bosibl iddynt ymgiprys am fedalau aur, arian ac efydd ym mis Tachwedd. Dyma nhw:

  • Jack Lewis (Gwasanaeth Bwyty)
  • Emma Hill, Danil Timakov, Tomos Hopkins a Scott Tavner (Electroneg Ddiwydiannol)
  • Joel Farrant a Luke Ball (Technegydd Labordy)
  • Megan Evans a Cara Morgan (Gwyddor Fforensig)

Mae’r myfyrwyr bellach yn hyfforddi ar Gampws Tycoch y Coleg ar gyfer eu gwahanol gystadlaethau.

Bydd cyfanswm o dros 400 o fyfyrwyr a phrentisiaid yn cystadlu ar draws 64 disgyblaeth wahanol i gael eu coroni’n bencampwyr sgiliau cenedlaethol rhwng 9 a 19 Tachwedd.

“Fe wnaeth dros 3,000 o bobl ifanc gofrestru i gymryd rhan yn y cystadlaethau ledled y DU yn ôl ym mis Mawrth ac felly rydyn ni wrth ein boddau bod naw myfyriwr yn cynrychioli’r Coleg ar y cam nesaf - y rowndiau terfynol cenedlaethol,” dywedodd Deon y Gyfadran, Cath Williams. “Mae pob un nawr yn gweithio fel lladd nadroedd i hyfforddi a pharatoi ar gyfer eu cystadlaethau ac rydyn ni’n dymuno pob hwyl iddyn nhw.

“Bydd hyn yn gyfle gwych iddyn nhw wir ymestyn eu hunain, datblygu eu sgiliau, cystadlu gyda’r goreuon yn eu meysydd arbenigol, a chynrychioli’r Coleg ar y llwyfan cenedlaethol.”

I’r adran Lletygarwch ac Arlwyo, mae cael Jack Lewis yn y rowndiau terfynol cenedlaethol yn golygu mai hon yw’r chweched flwyddyn yn olynol maen nhw wedi cael cystadleuydd Gwasanaethau Bwyty ar y lefel uchaf honno.

Mae Jack yn dilyn yn ôl-traed y cyn-fyfyrwyr Ryan Kenyon (Arian), Scott Mears, Trixie Belle-Ewing, Collette Gorvett (Medaliwn Rhagoriaeth), Paulina Skoczek (Arian), Paige Jones (Efydd), Ruben Johnston a Connor Trehar, y mae llawer ohonynt yn gweithio yn y diwydiant erbyn hyn.

Mae gan Beirianneg Electronig hanes cryf tebyg o ran llwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau. Er gwaethaf aflonyddwch y ddwy flynedd diwethaf oherwydd y pandemig, mae eu myfyrwyr wedi parhau i gipio medalau. Ym mis Tachwedd 2020, mewn digwyddiad hyfforddiant rhithwir a gynhaliwyd yn Nhycoch ac a drefnwyd gan WorldSkills, cyflwynwyd medalau i Rhys Watts (Aur), Ben Lewis (Arian) a Liam Hughes (Arian).

Roedd yr un tri myfyriwr hefyd yn fuddugol yn y digwyddiad byw y llynedd yn NEC Birmingham, lle enillodd Liam fedal Aur, enillodd Rhys fedal Arian, a chafodd Ben Ganmoliaeth Uchel. Yn 2018, enillodd Jamie Skyrme fedal Aur yn y gystadleuaeth Electroneg Ddiwydiannol ar ôl ymgymryd â set heriol o dasgau cystadleuaeth gan gynnwys chwilio am namau, dylunio electronig, rhaglennu a phrototeipio.

Yn y gwyddorau, mae’r pedwar cystadleuydd eleni yn dilyn yn ôl-traed y cyn-fyfyriwr Catherine Jones, a enillodd fedal Aur yn y gystadleuaeth Gwyddor Fforensig yn 2019.

Yn ogystal â chwblhau cwrs HNC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol a hyfforddi ar gyfer WorldSkills, mae Joel Farrant a Luke Ball hefyd yn gwneud prentisiaethau gyda Tata Steel, gan weithio oriau ychwanegol i gynorthwyo’r cwmni dros y cyfnod clo.

“Mae hyn yn gyflawniad gwych gan y ddau gyflogwr ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at eu gweld nhw’n cystadlu ym mis Tachwedd, yn chwifio’r faner dros ddiwydiant dur Cymru,” dywedodd Matthew Davies, Cynghorwr Hyfforddiant Technegol, Dysgu a Datblygu, Tata Steel.  
 
“Hoffwn i longyfarch a diolch i Goleg Gŵyr Abertawe. Nid yn unig maen nhw wedi cydnabod potensial a doniau’r ddau fyfyriwr hyn, ond maen nhw’n gweithio’n galed tu hwnt i gael ein holl brentisiaid trwy raglenni Lefel 3 a Lefel 4 ac rydyn ni’n hynod ddiolchgar am hynny. Mae’n bleser gweithio ochr yn ochr â nhw.”