Lansio cyfleuster hyfforddi blaenllaw yn y sector


Diweddarwyd 15/03/2018

Mae cyfleuster newydd wedi cael ei lansio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a fydd yn cynnig amgylchedd hyfforddi blaenllaw yn y sector i drydanwyr sy'n gweithio mewn amodau peryglus.  

Ariannwyd Canolfan Hyfforddi CompEx Abertawe, canlyniad cydweithrediad rhwng y Coleg a Gwasanaethau Peirianneg C&P, gan y Rhaglen Blaenoriaethau Sgiliau gyda chymorth Llywodraeth Cymru.

CompEx yw'r cynllun byd-eang cydnabyddedig ar gyfer rhoi gwybodaeth hanfodol a sgiliau ymarferol i ymgeiswyr fel y gallant weithio'n ddiogel mewn atmosfferau a allai fod yn ffrwydrol, boed hynny oherwydd nwy fflamadwy, llwch hylosg neu beryglon eraill.

“Rydyn ni’n falch iawn o gynnal y cyfleuster newydd sbon hwn ar ein campws  yn Nhycoch,” meddai Tim Clark, Rheolwr Cynorthwyol y Maes Dysgu. “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda chyflogwyr, prentisiaid a myfyrwyr masnachol yn y DU a rhyngwladol i gynnig ystod o gyrsiau CompEx."

Y cyrsiau cyntaf a gynigir yn y Ganolfan Hyfforddi fydd y cyrsiau pum diwrnod Nwy ac Anweddau (Ex01-Ex04) ar gyfer personél cymwys crefftau trydanol a/neu offer, a'r Uned Sylfaen (Ex F) sydd wedi'i dargedu at oruchwylwyr trydanol, rheolwyr a phersonél nad ydynt yn ymarferwyr i sicrhau mwy o werthfawrogiad o'r peryglon sy'n gysylltiedig â gweithio mewn atmosfferau ffrwydrol a hyrwyddo arferion gweithio diogel.

Bydd cyrsiau eraill fydd yn rhedeg yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn cynnwys modiwlau ar lwch ffrwydrol, person cyfrifol, dylunio ym maes peirianneg ac arferion mecanyddol.

Mae'r Ganolfan newydd yn cynnwys 10 bae sy'n efelychu gosodiadau mewn awyrgylch petrocemegol / ffrwydrol nodweddiadol. Mae'r cyrsiau'n ddwys, gyda myfyrwyr yn treulio tri diwrnod yn yr ystafell ddosbarth cyn ymgymryd â dau ddiwrnod o asesiadau lle mae'n ofynnol iddynt ganfod namau yn y bythod.

Mae Tim, a gyflwynodd y cais gwreiddiol am gyllid yn 2017, bellach yn gweithio ar gais dilynol a fydd yn caniatáu ar gyfer datblygu yn y dyfodol.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu ein hymgeiswyr cyntaf i Ganolfan Hyfforddi CompEx Abertawe,” meddai Tim. “Ac wrth weithio mewn partneriaeth â C&P, rydyn ni’n llawn cyffro ynghylch ehangu ein portffolio o gyrsiau a chynyddu ein sylfaen cleientiaid ledled y DU a thramor.”

I gael rhagor o wybodaeth ffoniwch 01792 284090 neu e-bostiwch compex@coleggwyrabertawe.ac.uk

Tags: