Skip to main content
Congratulations to our 2016 HE graduates

Llongyfarchiadau i'n myfyrwyr AU 2016

Yn ddiweddar aeth dros 100 o fyfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe i ddigwyddiad graddio arbennig yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.

Roedd y myfyrwyr yn dathlu llwyddiant mewn pynciau mor amrywiol â chyfrifeg, peirianneg, arweinyddiaeth a rheolaeth, therapïau tylino chwaraeon, rheolaeth gwallt a harddwch, gofal plant, a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

"Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar addysg yn enwedig addysg bellach ac uwch, o ran darparu’r sgiliau sydd eu hangen i gefnogi economi cryf” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. "Dwi wrth fy modd bod Coleg Gŵyr Abertawe, gan weithio gyda’n partneriaid AU a phartneriaid eraill, yn gallu cefnogi’r agenda hon ac yn parhau i ddatblygu ein darpariaeth AU trwy weithio mewn partneriaeth gref."

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn darparu amrywiaeth o gyrsiau AU ar y cyd â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Lluniau: A Frame Photography