Skip to main content

Llwyddiant Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i Byddia a Jae

Mae’r ddau fyfyriwr dawnus o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael eu derbyn i astudio BA (ANRH) Theatr Gerdd mewn coleg arbenigol yng Nghymru.

Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw Conservatoire Cenedlaethol Cymru ac mae’n denu myfyrwyr dawnus dros ben i astudio yno o bob cwr o’r byd.

Maen nhw’n darparu hyfforddiant ymarferol arbenigol mewn cerddoriaeth a drama ac yn cynhyrchu rhai o fyfyrwyr mwyaf cystadleuol y byd, gan alluogi myfyrwyr i fentro i fyd cerddoriaeth, theatr a disgyblaethau cysylltiedig eraill.

Bob blwyddyn, mae tua 2,000-3,000 o fyfyrwyr yn ymgeisio ar gyfer pob un cwrs unigol. Roedd Byddia a Jae yn ddau o ddim ond un ar bymtheg a dderbyniwyd i astudio Theatr Gerdd BA (ANRH). 

Fe wnaethon ni ddal i fyny â Byddia a Jae i ddarganfod sut mae eu profiadau yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi eu galluogi i sicrhau lle ar un o gyrsiau gorau’r DU.

Ar ôl treulio 3 blynedd yn astudio Diploma Lefel 3 Estynedig mewn Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, penderfynodd Byddia dreulio blwyddyn ychwanegol yn y Coleg er mwyn astudio Tystysgrif AU mewn Theatr Gerdd.

“I fod yn onest, doeddwn i ddim yn teimlo’n barod i symud i ffwrdd i barhau gyda fy hyfforddiant mewn ysgol ddrama,” dywedodd Byddia. “Penderfynais aros yng Ngholeg Gŵyr Abertawe oherwydd eu bod yn darparu amgylchedd cefnogol iawn, ac roeddwn i wir wedi mwynhau fy nwy flynedd gyntaf yno. Felly, roedd hi’n teimlo’n naturiol i fi dreulio blwyddyn ychwanegol yno, mewn amgylchedd cyfarwydd gyda darlithwyr cyfarwydd, cefnogol sy’n angerddol am eich helpu chi i lwyddo.”

Cafodd darlithwyr y Coleg effaith fawr ar Byddia, ac fe wnaethon nhw sicrhau na fyddai pandemig byd-eang yn amharu ar ei llwyddiant mewn unrhyw ffordd.

“Fe wnes i fwynhau fy amser yn astudio’r cwrs hwn oherwydd fy narlithwyr,” ychwanegodd Byddia. “Roedden nhw’n ddylanwadol iawn ac fe wnaethon nhw fy helpu i wella fy sgiliau cyffredinol fel perfformiwr, ym mhob disgyblaeth. Hyd yn oed yn ystod y pandemig, roedden nhw’n gefnogol iawn ac fe wnaethon nhw’n siŵr fy mod yn derby yr hyfforddiant yr oedd ei angen arnaf.”

Fe wnaeth Jae hefyd astudio Diploma Lefel 3 Estynedig mewn Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, cyn symud ymlaen i astudio Tystysgrif AU mewn Theatr Gerdd yn y Coleg.

“Fe wnes i fwynhau astudio’r cwrs Celfyddydau Perfformio yn fawr iawn, felly penderfynais dreulio blwyddyn ychwanegol yn y Coleg er mwyn gwella ymhellach cyn symud i ffwrdd,” meddai Jae. “Doeddwn i ddim yn barod i symud i ffwrdd i astudio Theatr Gerdd yn ystod cyfnod mor ansicr ac, hefyd, rwy’n hoff iawn o’r Coleg a’r darlithwyr.”

I Jae, penderfyniad hawdd oedd treulio blwyddyn ychwanegol yn y Coleg, gan fod y cwrs Celfyddydau Perfformio yn un uchel ei barch.

“Fy hof beth am astudio yn y Coleg yw bod gan y Celfyddydau floc dynodedig ei hun, felly hawdd yw amgylchynu eich hun gyda phobl sy’n rhannu’r un diddordebau â chi,” dywedodd Jae. “Mae’r ystafell ddawns yn dda iawn; rwy’n cofio ymweld â’r ystafell ar ddiwrnod agored a gwybod yn syth mai dyma’r lle roeddwn i am astudio.”

Roedd Jae hefyd yn hoff iawn o’r ffaith yr oedd y cwrs wedi ei alluogi i archwilio disgyblaethau newydd.

“Fy hoff ran o’r cwrs oedd yr elfen ddawns, oherwydd doeddwn i erioed wedi ystyried fy hun yn ddawnsiwr, ond nawr rwy’n ddigon hapus ac yn gyfforddus i ddawnsio,” ychwanegodd. “Roeddwn i hefyd yn hoff iawn o’r elfen ganu, oherwydd fy mod i wedi cael cyfle i ganu a dod o hyd i wahanol arddulliau, caneuon a rhinweddau lleisiol newydd, roedd hyn yn llawer o hwyl. Rydw i wedi derbyn cyngor ar dechnegau canu ac actio ac rydw i nawr yn teimlo fy mod wedi gwella fy sgiliau canu yn fawr iawn.”

Llongyfarchiadau i Byddia a Jae ar sicrhau lle i astudio BE (ANRH) Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Gall unrhyw un sy’n dymuno dilyn yr un llwybr â Byddia a Jae wneud cais i astudio cwrs Celfyddydau Perfformio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

https://www.gcs.ac.uk/course-search?cat=Performing%20Arts&type=Full-Time&section=Music,%20Media%20and%20Performance