Skip to main content
Staff Coleg, myfyriwr a rheolwr ym mwyty Croeso Lounge.  Matthew Jones (Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol), Angela Smith (Tiwtor/Aseswr SBA), Ethan Scott, Dan Kristof (Rheolwr, Croeso Lounge), Pen-cogydd, Ryan Bath (Hyfforddwr Swyddi SBA).

Llwyddiant partneriaeth i Sgiliau Byw’n Annibynnol a Phrentisiaethau 

Mae’r adrannau Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA) a Hyfforddiant Coleg Gŵyr Abertawe wrthi’n dathlu ffrwyth eu cyd-fenter gyntaf newydd sydd wedi rhoi modd i ddau fyfyriwr ag anghenion dysgu ychwanegol bontio o raglen interniaeth flwyddyn i brentisiaethau cefnogol am dâl gyda chyflogwyr lleol ym mis Ebrill.  

Trwy gydweithio â The Ware-House Gym yng Nghwmdu a Croeso Lounge yn y Mwmbwls, daeth y Pasg yn gynnar i’r myfyrwyr gweithgar Callum East ac Ethan Scott pan ddywedodd y mentoriaid gwaith, Hayley Harries a Dan Kristof, eu bod nhw am eu cyflogi yn hirdymor.  

Fe wnaeth Pennaeth y Rhaglen Pontio i Interniaeth SBA a’r Rheolwr Maes Dysgu, Simon Pardoe, gysylltu â’r Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith, Rachel Searle, yn gynharach eleni i archwilio cyfleoedd cyflogaeth gefnogol am dâl i fyfyrwyr ag anabledd dysgu. Diolch i’r rhaglen llwybrau prentisiaeth newydd, efallai y bydd hi’n bosibl nawr i ragor o fyfyrwyr SBA ‘ennill wrth ddysgu’ tuag at gymhwyster gwerthfawr sy’n cael ei gydnabod gan fyd diwydiant, i gefnogi gyrfaoedd gydol oes.   

Meddai Rachel Searle “rydyn ni’n cydnabod bod myfyrwyr SBA yn aml yn wynebu heriau mwy o faint wrth geisio cyflogaeth a gyrfaoedd parhaol, ac felly mae rhaglen pontio prentisiaethau SBA yn hanfodol o ran galluogi mwy o fyfyrwyr i fentro i fyd gwaith a chyflawni eu potensial llawn ar gyfer gyrfaoedd gydol oes. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i Callum, Ethan a’u cyflogwyr yn eu teithiau prentisiaeth. Mae’n wych gweld yr effaith maen nhw wedi’i chreu ar eu cyflogwyr.”  

Ychwanegodd Simon Pardoe “gallai cysylltu â Rachel a’r tîm dysgu seiliedig ar waith newid bywyd rhai o’n myfyrwyr ar y cynllun prentisiaethau. Gallen ni weld mwy o fyfyrwyr nag erioed o’r blaen yn pontio nid yn unig o SBA i interniaethau, sydd yn gyflawniad gwych ynddo ei hun, ond hefyd o SBA i gyflogaeth am dâl, a hynny yw’r nod yn y pen draw i unrhyw fyfyriwr coleg.” 

Roedd Hayley Harries, rheolwr y Ware-House Gym wedi canmol Callum, gan ddweud “mae e bob amser yn gweithio’n galed, mae e’n ddibynadwy ac yn fodlon ac yn cyd-dynnu’n dda gyda’r tîm. Byddai’n braf pe gallwn ei glonio a chreu deg Callum arall!”  

Dywedodd Dan Kristof, rheolwr y Croeso Lounge “mae Ethan wedi magu shwd gymaint o hyder ers dechrau gyda ni, ac mae ei agwedd at waith yn ardderchog. Rydyn ni’n gallu addysgu pobl sut i wneud y swydd ond os nad oes gyda nhw agwedd dda at waith, wel dydyn ni ddim yn gallu addysgu hwnna. Mae Ethan yn haeddu ei swydd newydd heb os nac oni bai.” 

Gan fod y ddau fyfyriwr yn dechrau eu prentisiaethau ym mis Ebrill mae Callum yn  gweithio tuag at gymhwyster Diploma City & Guilds Lefel 2 mewn Gwasanaeth Cwsmeriaid, ac mae Ethan yn gweithio tuag at gymhwyster Blaen Tŷ Lefel 2 gyda Cambrian Training, ac maen nhw hefyd yn cael eu talu gan eu cyflogwyr.   

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut y gall Coleg Gŵyr Abertawe helpu myfyrwyr ag anabledd dysgu i gael gwaith, a chyflogwyr i ddatblygu lleoliadau interniaeth, cysylltwch â’r tiwtor/aseswr Angela Smith yn yr adran Sgiliau Byw’n Annibynnol angela.smith@gcs.ac.uk  

Prif lun o’r chwith i’r dde: Matthew Jones (Rheolwr Maes Dysgu Cynorthwyol), Angela Smith (Tiwtor/Aseswr SBA), Ethan Scott, Dan Kristof (Rheolwr, Croeso Lounge), Pen-cogydd, Ryan Bath (Hyfforddwr Swyddi SBA).  

Ail lun o’r chwith i’r dde: Simon Pardoe (Rheolwr Maes Dysgu), Ryan Bath (Hyfforddwr Swyddi SBA), Callum East, Emma Long (mam Callum), Angela Smith (Tiwtor/Aseswr SBA), Hayley Harries (Rheolwr, Ware-House Gym), Rachel Jones (Tiwtor/Aseswr Gwasanaeth Cwsmeriaid).