Skip to main content
Myfyrwyr arlwyo yn paratoi i gynrychioli Cymru

Myfyrwyr arlwyo yn paratoi i gynrychioli Cymru

Mae dau fyfyriwr Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe yn barod i gynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK LIVE.

Bydd Paige Jones, sy’n dilyn cwrs Diploma Lefel 3 mewn Goruchwylio Gwasanaeth Bwyd a Diod, a Paulina Skoczek, sy'n astudio Diploma Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol, yn cymryd rhan yn Rowndiau Terfynol Gwasanaethau Bwyty yn NEC Birmingham ym mis Tachwedd.

Yn ystod y gystadleuaeth ddeuddydd, byddan nhw’n wynebu cyfres o dasgau heriol gan gynnwys gwneud coctel, cerfio ffrwythau, paratoi pwdinau fflamboeth, gweini te prynhawn siampên ac adnabod cyfres o wirodydd.

“Dyma'r bedwaredd flwyddyn yn olynol y mae myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd camau olaf y digwyddiad mawreddog hwn,” meddai'r Rheolwr Maes Dysgu Mark Clement. “Mae'r tîm Lletygarwch ac Arlwyo yn falch iawn y bydd Paige a Paulina yn cael y cyfle gwych hwn i ddangos eu sgiliau a chystadlu ar lefel mor uchel.”

DIWEDD