Skip to main content

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn cipio Aur ac Arian!

Mae dau fyfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medalau yn y Sioe Sgiliau Find a Future a gynhaliwyd yn ddiweddar yn yr NEC yn Birmingham.

Enillodd y fyfyrwraig Astudiaethau Dysgu Annibynnol Kayleigh Lewis fedal Aur yn y gystadleuaeth ‘Sgiliau Coginio Cynhwysol', lle roedd gofyn iddi baratoi a chyflwyno brechdanau wedi'u llenwi yn steil rapiau a bara fflat gan arddangos y sgiliau paratoi, hylendid a diogelwch cywir trwy'r holl waith.

“Doedd Kayleigh ddim i'w gweld yn nerfus o gwbl wrth i'r gystadleuaeth agosáu, a derbyniodd y cyfan heb gynhyrfu o gwbl,” dywedodd y Rheolwr Maes Dysgu, Mark Clement.

“Dyma'r ail gystadleuaeth lle mae Kayleigh wedi ennill gwobr Aur wrth gynrychioli'r coleg, felly rydym ni wrth ein boddau!", ychwanegodd yr Arweinydd Cwricwlwm, Michelle Williams.

“Roedd gweld Kayleigh yn llwyddo i beidio â chynhyrfu ac yn cadw'i phen mewn sefyllfa lle roedd cymaint o bwysau arni yn fraint arbennig," dywedodd Lisa Scally, ei darlithydd a'i mentor yn arwain at y gystadleuaeth.

Yn y cyfamser, roedd y myfyriwr Lletygarwch Ryan Kenyon wedi ennill y fedal Arian yn y gystadleuaeth ‘Gwasanaeth Bwyty', ac mae'n mynd ymlaen i ymuno â charfan y DU, gyda'r nod o gael lle a chynrychioli ei wlad ar y llwyfan rhyngwladol.

Dros dri diwrnod, cafodd waith Ryan ei archwilio'n fanwl gan y beirniaid wrth iddo gwblhau nifer o dasgau gan gynnwys: paratoi Steak Diane yn steil ‘Gueridon’; paratoi darnau o Chateaubriand wrth y bwrdd; cerfio ystlys eog mwg a chyflwyno pedwar darn yn barod i'w gweini; gweini te prynhawn siampên a gweini bwrdd o bedwar, gan gynnwys gwasanaeth arian.

Roedd Hyfforddwr Gwasanaeth Bwyd y coleg Nicola Rees yn falch iawn gyda'r canlyniad.

“Mae Ryan wedi cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe mewn pedair cystadleuaeth fawr dros y ddwy flynedd ddiwethaf a dylai fod yn falch iawn o'i lwyddiant,” dywedodd. “Bydd yr atgofion arbennig hyn yn aros gyda Ryan trwy gydol ei yrfa.”

Find a Future yw'r sefydliad addysgol sy'n dwyn ynghyd cystadlaethau Sgiliau DU WorldSkills, The Skills Show a'r Skills Show Experience.

Mae'n rhoi cyfle i bobl ifanc ar draws y DU i ddatgloi eu potensial a chael eu hysbrydoli gan fyd gwaith. Drwy gyfrwng cystadlaethau ymarferol a digwyddiadau gyrfaoedd, mae Find a Future yn ceisio datblygu eu dealltwriaeth o addysg bellach, prentisiaethau a sgiliau, a sut y maent yn ymgysylltu â nhw.

DIWEDD