Skip to main content
Myfyrwyr yn dathlu

Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn ennill llu o fedalau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn dathlu ar ôl i fyfyrwyr ennill cyfanswm o 30 medal yn dilyn y rownd ddiweddaraf o ddigwyddiadau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru.

Gwahoddwyd y dysgwyr i ‘barti gwylio’ arbennig ar Gampws Tycoch ar 9 Mawrth i ddathlu wrth i’r canlyniadau gael eu cyhoeddi.

Enillwyr medalau Aur:
Orlagh Cronin – Colur Creadigol
Tarran Spooner – Electroneg Ddiwydiannol
Lauren Maddick – Gofal Plant
Kaitlin Curtis  - Marchnata Gweledol
Cameron Bryant – Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaethau Bwyty
Noah Brooks – Technegydd Cymorth TG

Enillwyr medalau Arian:

Jarrad Scott – Codio
Courtney Wallace – Electroneg Ddiwydiannol
Liam Allen – Gwaith Coed
Olivia Colhoun - Menter
William Evans - Menter
Heledd Hunt - Menter
Jessi Jones - Menter
Haydn Jones – Menter
Connor Leahy – Roboteg Ddiwydiannol
Joshua Lenthall - Roboteg Ddiwydiannol
Vitalii Pasternak - Seiberddiogelwch
Nestor Penate - Seiberddiogelwch
Jessica Brown – Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaethau Bwyty
Pasha Richards-Parssa Nykoo – Sgiliau Cynhwysol: Sgiliau Bywyd
Ciaran Goggin – Technegydd Cymorth TG
Georgia Cox – Technegydd Labordy
Erin McCormick – Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)

Enillwyr medalau Efydd:
Rhys Gunning – Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn
James Wheland – Electroneg Ddiwydiannol
Miles Thornton – Gofal Plant
Thea Wakeford – Marchnata Gweledol
Kayleigh Brock - Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaeth Cwsmeriaid
Ashley Duggan – Sgiliau Cynhwysol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Courtney Taylor – Sgiliau Cynhwysol: Sgiliau Bywyd


Nod Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yw codi proffil sgiliau yng Nghymru ac mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid Cymru herio, meincnodi a chodi eu sgiliau drwy gymryd rhan mewn cystadlaethau ar draws amrywiaeth o sectorau.

Wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru a’i rhedeg gan rwydwaith ymroddedig o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr, mae’n cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sy’n cyd-fynd â WorldSkills ac anghenion economi Cymru.

“Rydyn ni wrth ein bodd gyda pherfformiad ein holl fyfyrwyr a gymerodd ran yn fframwaith Cystadleuaeth Sgiliau Cymru eleni,” meddai Deon Cyfadran a’r Llysgennad Sgiliau, Cath Williams. “Mae jyglo eu hastudiaethau o ddydd i ddydd ochr yn ochr ag ymarferion ychwanegol a neilltuo amser i hyfforddi ar gyfer y gystadleuaeth yn gyflawniad rhyfeddol, a dylai pawb fod yn falch o hynny.

“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill cynifer o fedalau y tro hwn – chwe Aur, 17 Arian a saith Efydd – ac mae hyn wir yn dyst i’r profiadau dysgu ac addysgu ardderchog y mae’r Coleg, sy’n Ganolfan Ragoriaeth Sgiliau Brydeinig ddynodedig, yn eu darparu.”

Llongyfarchiadau enfawr hefyd i weddill ein cystadleuwyr 2023:

Celfyddydau Coginio
Alyssa Bevan

Cerddoriaeth Boblogaidd
Shay Adamson
Gwen Marshall-Rees
Calum Newton
Dawson Phillips
Ollie Wright

Codio
Dafydd Davies
William Rees

Colur Creadigol
Emma Burton
Eloise Vaughan
Ffion Williams

Dylunio a Thechnoleg Ffasiwn
Mia-Haf Davies-Dole
Emma Scott

Dylunio Graffig
Sean Hollyman

Electroneg Ddiwydiannol
Bobi Hayward
Rhys Lock
Faroz Shahrokh

Ffotograffiaeth
Joseph Allen
Tobias Holt

Gofal Plant
Angelika Skoczek
Jessica Wilton

Gosodiadau Trydanol
Alfie Geach
Drew Squires

Gwaith Brics
Kieran Jones
Cieron Redden

Gwasanaeth Bwyty
Rhys David

Gwyddor Fforensig
Zayden Diamond
Finlay Willshire

Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Talia Paton

Marchnata Gweledol
Sophie Evans
Nikola Zgoda

Plastro
Curtis Williams

Plymwaith a Gwresogi
Ben Morgan
Omar Omar

Sgiliau Cynhwysol: Gofal Plant
Christy Plambeck
Sami-Jo Samuel

Sgiliau Cynhwysol: Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Cai Roberts

Technegydd Cymorth TG
Jay Mason

Technegydd Labordy
Caitlin Burton

Therapi Harddwch (Dwylo a Wyneb)
Katy Lee
Charlotte McMurray-Cooper

Weldio
Jodi Jones

Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)
Katie Gladwin