Skip to main content

Myfyrwyr Theatr Gerdd yn derbyn adborth amrhisiadwy gan weithwyr proffesiynol y diwydiant

Yn ddiweddar fe wnaeth myfyrwyr TystAU Theatr Gerdd dderbyn adborth gwerthfawr fel rhan o’u modiwl paratoi ar gyfer clyweliad.

Yn y digwyddiad, roedd rhaid i’r myfyrwyr berfformio darn clyweliad o flaen panel o bedwar gweithiwr proffesiynol:

  • Steve Balsamo (yn y llun uchod), actor sydd wedi derbyn clod am chwarae Iesu yn y West End yn Jesus Christ Superstar gan Andrew Lloyd Webber.
  • Crisian Emmanuel, actor sydd wedi gweithio ar lwyfan, teledu a ffilmiau megis The Da Vinci Code gyda Tom Hanks, Very Annie Mary ac Under Milk Wood gyda Rhys Ifans.
  • Viv Care, Pennaeth Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
  • Jackie Bristow, Tiwtor Theatr Gerdd Coleg Gŵyr Abertawe sydd wedi gweithio yn Ysgol Celfyddydau Llundain am 35 o flynyddoedd. Mae hi hefyd wedi perfformio mewn sawl sioe yn y West End.

Ysgrifennodd pob aelod o’r panel adborth adeiladol iawn i bob un o’r myfyrwyr fel y gallant wella ar eu perfformiadau yn y dyfodol.

Roedd safon perfformiadau’r myfyrwyr wedi creu argraff fawr ar y panelwyr. Dywedodd Steve Balsamo: “Cefais sioc o’r ochr orau. Llongyfarchiadau i’r myfyrwyr ac i’r athrawon. Gwych iawn.”

Dywedodd Vivien Care: “Fe wnaethon nhw jobyn gwych! Da iawn am greu sioe slic, atyniadol a difyr dros ben.”

Cytunodd Crisian Emmanuel: “Maen nhw mor dda â myfyrwyr colegau arbenigol yn barod.”

Dywedodd myfyriwr Buddia Lewis “Roedd y noson yn llawer o hwyl. Yn amlwg, roeddwn i’n nerfus ond roedd hi’n braf i allu perfformio o flaen cynulleidfa unwaith eto am y tro cyntaf ers mis Mawrth. Ar y cyfan, roedd y noson yn ddifyr ac yn llwyddiant, ac fe dderbyniom adborth hyfryd.”

Wrth siarad am y clyweliadau, dywedd arweinydd y cwrs, Rhian Holdsworth: “Roedd myfyrwyr a staff yn gyffrous i gael gweithwyr proffesiynol o’r radd flaenaf i roi adborth i‘n myfyrwyr.

“Roedd staff y Coleg yn falch iawn o sut gwnaeth y myfyrwyr drin yr achlysur, gan ddangos hyder ac aeddfedrwydd.

“Diolch enfawr i Michael Moorwood, sydd wedi bod yn gweithio gyda’r myfyrwyr ers mis Medi. Mae Michael yn addysgu Theatr Gerdd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Diolch hefyd i Andrew Simeon, perfformiwr yn y West End, am weithio gyda’r myfyrwyr lwcus ers Medi.”

Am ragor o wybodaeth am y TystAU Theatr Gerdd, ewch i adran addysg uwch o'r wefan.