Skip to main content

Myfyrwyr yn cael blas ar fyd tecstilau

Bu criw o fyfyrwyr Celf a Dylunio, Llwyn y Bryn yn ddigon ffodus i gael ymweld â melin wlân Melin Tregwynt mewn rhan anghysbell o arfordir Sir Benfro. Trefnwyd y daith gan Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd a Lucy Turtle, Swyddog Mentergarwch Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae’r felin wedi bod yn nheulu Amanda ac Eifion Griffiths ers 1912 ac mae’n cyflogi dros 30 o bobl.

“Roedd hwn yn gyfle gwych i'r myfyrwyr gwrdd â’r Model Rôl Syniadau Mawr Amanda Griffiths”, meddai Lucy. “Dangosodd Amanda i’r myfyrwyr y broses o greu’r blancedi gwlân maent yn fwyaf enwog amdanynt, o'r dechrau i'r diwedd, a daeth Sophia un o’r dylunwyr atom a disgrifio’r broses honno yn fwy manwl, o greu patrymau tecstilau newydd i ddefnyddio rhai o’r archif.”

“Heddiw mae’r dyluniadau traddodiadol Cymreig yn cael eu trawsffurfio gyda lliwiau a dylunio arloesol", ychwanegodd Anna. Mae eu blancedi i'w gweld mewn gwestai dros y byd i gyd - esiampl wych o sut mae busnes gwirioneddol Gymreig wedi ehangu ei orwelion yn fyd-eang, a chadw’n driw i’w dreftadaeth.”