Myfyrwyr yn cwrdd â’r Cwnsler Cyffredinol ar y campws


Diweddarwyd 26/04/2018

Mae myfyrwyr Safon Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael ymweliad arbennig gan y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles AC.

Mewn seminar gyda myfyrwyr y Gyfraith a Throseddeg ar gampws Gorseinon, siaradodd y Cwnsler Cyffredinol am amrywiaeth o faterion sy’n ymwneud â myndiad i gyfiawnder. Roedd hyn yn cynnwys argaeledd cymorth cyfreithiol, rhaglen moderneiddio’r llys, costau cynyddol ffioedd llys, addysg gyfreithiol a chodeiddio’r gyfraith.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:

“Dwi’n cydnabod y rôl allweddol y mae ysgolion a cholegau’r gyfraith yn ei chwarae o ran addysgu’r genhedlaeth nesaf o ymarferwyr. Wnes i wirioneddol fwynhau cwrdd â’r myfyrwyr i gael eu barn am amrywiaeth o faterion cyfreithiol, yn enwedig yn ymwneud â mynediad i wasanaethau cyfreithiol ac amrywiaeth yn y proffesiwn.”

Mae Mr Miles AC yn dod yn wreiddiol o Bontarddulais. Yn siaradwr Cymraeg, cafodd ei addysgu yn Ysgol Gyfun Ystalyfera a’r Coleg Newydd, Rhydychen, lle astudiodd y gyfraith. Fel y Cwnsler Cyffredinol, mae ei gyfrifoldebau allweddol yn cynnwys rhoi cyngor cyfreithiol i’r llywodraeth a goruchwylio gwaith yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol sy’n darparu gwasanaethau cyfreithiol i Lywodraeth Cymru.

“Roedd hyn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr gwrdd â’r Cwnsler Cyffredinol a gofyn cwestiynau iddo am ei yrfa ei hunan a’r materion ehangach sy’n gysylltiedig â’r gyfraith a throseddeg,” dywedodd Rheolwr y Maes Dysgu Bruce Fellowes. “Roedd e wedi dangos diddordeb mawr yn eu gwaith ac yn eu barn am yr heriau sy’n wynebu pobl a hoffai ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiol yng Nghymru.”

Tags:
law