Skip to main content

Neges ddiweddar gan y Pennaeth, Mark Jones: Mehefin

Mewn cyhoeddiad wythnos diwethaf, nododd y Gweinidog Addysg y bydd rhai myfyrwyr yn cael dychwelyd i’r Coleg ar ddydd Llun 15 Mehefin. Hoffwn eich diweddaru ar sut y bydd y cyhoeddiad hwn yn effeithio ar fyfyrwyr sy’n astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Yn gyntaf, hoffwn gadarnhau unwaith eto mai prif flaenoriaeth Coleg Gŵyr Abertawe yw iechyd a diogelwch ein myfyrwyr a’n staff. Ni fydd cyhoeddiad y Gweinidog yn newid y flaenoriaeth hon mewn unrhyw ffordd.

Fodd bynnag, mae’r cyhoeddiad yn rhoi cyfle i rai myfyrwyr - yn benodol y rhai sydd ag asesiadau galwedigaethol i’w cwblhau - i ddychwelyd i’r Coleg i gyflawni’r gwaith yma.

Ond, wrth ddychwelyd i’r Coleg, rhaid i’r myfyrwyr ddeall y byddwn yn gweithredu’n wahanol iawn i’r ffordd yr oeddem yn gweithredu cyn y Coronafeirws. Bydd niferoedd y dosbarthiadau yn llai a bydd angen cydymffurfio â’r mesurau o ran cadw pellter cymdeithasol.

Cymerwch amser i ddarllen drwy’r adran gwestiynau. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod am y cwestiynau ac yn eu deall yn ystod y cyfnod hwn.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi am eich amynedd wrth i ni roi trefniadau angenrheidiol ar waith er mwyn galluogi’n myfyrwyr i gyflawni unrhyw asesiadau sy’n weddill ganddynt, gan sicrhau diogelwch a lles ar bob adeg.

Mark Jones, Pennaeth

A fydd pob myfyriwr yn gallu dychwelyd i’r Coleg?

Does dim angen i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau asesiadau digonol (fel y nodwyd gan eu byrddau arholi penodol; ac sy’n galluogi i’w perfformiad gael ei asesu a’i raddio) ddychwelyd i’r Coleg y tymor hwn. Mae’r categori hwn yn cynnwys e.e. myfyrwyr Safon Uwch a Mynediad.

Mae byrddau arholi eraill sy’n berthnasol i feysydd galwedigaethol megis peirianneg, plymwaith, cerbydau modur, gofal plant, cyfrifeg a gwallt a harddwch yn nodi y bydd yn rhaid i fyfyrwyr gwblhau asesiadau ymarferol. Fod bynnag, nid yw hyn yn berthnasol i bob myfyriwr sy’n astudio un o’r pynciau yma.

Pryd fydda i’n gwybod a fydd angen i mi ddychwelyd i’r Coleg i gwblhau unrhyw asesiadau?

Ar hyn o bryd, mae’r Coleg yn gwneud asesiadau a gwaith cynllunio manwl i sicrhau bod y meysydd cwricwlwm hynny, lle mae angen cynnal a chwblhau asesiadau, yn ddiogel i fyfyrwyr a staff ddychwelyd iddynt.

Rydym yn rhagweld y bydd angen rhagor o wythnosau arnom i gwblhau’r gwaith yma, a allai gynnwys derbyn offer amddiffynnol personol (PPE) ychwanegol ac, o bosib, gwaith ystadau e.e. rhannu a sgrinio ardaloedd gwaith a.y.b.

Yn y cyfamser, rydym yn gofyn i fyfyrwyr i beidio â mynychu unrhyw un o’r campysau nes iddynt glywed gan eu tiwtoriaid.

Sut fydda i’n cyrraedd a gadael y Coleg?

Bydd yr asesiadau sydd ar ôl i’w cynnal yn digwydd ar gampws Llys Jiwbilî neu Tycoch. Mae mwyafrif helaeth o’r myfyrwyr sydd ag asesiadau ar ôl i’w cwblhau eisoes wedi astudio ar y campysau yma.

Gall fyfyrwyr sydd â thocynnau bws barhau i ddefnyddio trafnidiaeth bysiau lleol, ond mae croeso hefyd i fyfyrwyr a’u rhieni/gwarcheidwaid yrru a pharcio eu cerbydau ar y campws.

Fe’n cynghorwyd gan First Cymru bod amserlenni bysiau lleol wedi cael eu cwtogi oblegid y sefyllfa bresennol, felly gwnewch yn siŵr ichi wirio amserlenni'r wefan cyn cychwyn ar eich taith.

Rydym yn rhagweld y byddwn yn derbyn arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos nesaf ynghylch cludiant bysiau, felly byddwn yn diweddaru’r cwestiwn hwn pan fydd gennym fanylion pellach.

Sut y byddwch chi’n sicrhau y byddaf yn ddiogel pan fyddaf yn dychwelyd i’r Coleg?

Fel yr amlinellais uchod, bydd y Coleg yn lle gwahanol iawn ar ôl llacio’r cyfyngiadau symud. Pan fydd myfyrwyr yn cyrraedd, byddant yn cael briff gan staff y Coleg o ran y canllawiau diogelwch y bydd angen iddynt gydymffurfio â nhw.

Bydd myfyrwyr yn dychwelyd i’r Coleg mewn grwpiau bach - sy’n golygu pan fyddwn yn cysylltu â chi, byddwn yn eich darparu â dyddiad(au) ac amser(oedd) penodol i chi gael mynychu’r Coleg. Ein gobaith yw na fydd mwy na 70 myfyriwr ar y campws ar yr un pryd ar unrhyw adeg.

Bydd myfyrwyr sy’n gorfod ymgymryd ag asesiadau yn cael eu gwahodd i’r campws dim ond am gyfnod yr asesiad ei hun.

Ni chaniateir myfyrwyr i ddefnyddio’r campws i aros, cymdeithasu nac astudio’n annibynnol - bydd y mwyafrif o feysydd cymorth y Coleg, gan gynnwys unrhyw arlwyo ar y safle, yn parhau i fod ar gau am y tro.

Pryd mae’r tymor yn dod i ben?

Diwrnod olaf swyddogol y tymor yw dydd Gwener Mehefin 26, ac rydym yn bwriadu cwblhau’r rhan fwyaf o’r gwaith a asesir erbyn hynny.

Fodd bynnag, os yw’n berthnasol, gall asesiadau barhau ar ôl y dyddiad wn gan mai ein nod yw cwblhau’r holl waith hwn cyn dechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi.

Gyda phwy y dylwn i gysylltu os oes gennyf gwestiynau ychwanegol?

E-bostiwch info@gcs.ac.uk neu cysylltwch â’n prif dderbynfa drwy ffonio 01792 284000. Byddwn yn cyfeirio eich ymholiadau hyd eithaf ein gallu.

Parhewch hefyd i ymweld â’n tudalen we bwrpasol ar ein hymateb i Covid-19 sy’n cael ei diweddaru’n rheolaidd.