Skip to main content

Newyddiadurwr y Times yn hyfforddi myfyrwyr i ysgrifennu am chwaraeon

Roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cyfle i weld ochr wahanol i fyd chwaraeon yr wythnos hon pan ddaeth newyddiadurwr y Times Rick Broadbent i ymweld â nhw.

Yn ystod anerchiad dwy awr ar gampws Tycoch, roedd Rick – a weithiodd gyda Jessica Ennis-Hill hefyd ar ei hunangofiant yn 2012 – wedi rhoi cipolwg i’r myfyrwyr ar fyd chwaraeon o bersbectif ysgrifennwr gan gynnwys y mathau o ddigwyddiadau mae’n ymdrin â nhw fel rhan o’i swydd o ddydd i ddydd a’r bobl mae wedi cwrdd â nhw drwy gydol ei yrfa.

O dan arweinyddiaeth Rick, roedd y myfyrwyr wedi dadansoddi erthyglau papurau newydd i’w helpu i adnabod gwahanol arddulliau a strwythurau ysgrifennu. Roedd wedi rhoi sylw hefyd i gyfweliadau chwaraeon, gan archwilio sut i fframio cwestiynau i gael yr atebion gorau gan gyfweleion.

Ar ddiwedd y sesiwn, cafodd y myfyrwyr y dasg o ysgrifennu eu copi eu hunain am ddigwyddiad chwaraeon yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd mewn pecyn a briff i’r wasg.

"Roedd hwn yn gyfle gwych i’r myfyrwyr gwrdd â newyddiadurwr uchel iawn ei barch sydd wedi adeiladu gyrfa wych yn y cyfryngau chwaraeon," dywedodd y darlithydd Stacey Rabaiotti. "Roedden nhw wedi ymddiddori’n fawr yn ei straeon ac yn wir roedd hwnna wedi rhoi persbectif gwahanol iddyn nhw. Roedd ysgrifennu eu copi eu hunain a chael adborth gan Rick ar eu defnydd o iaith, eu synnwyr o ‘newyddion’ ac ar gyflymder eu hadroddiadau yn brofiad ardderchog iddyn nhw."