Skip to main content

Neges gan y Pennaeth – Dydd Iau 13 Ionawr

Mae wythnos wedi mynd heibio ers inni groesawu chi yn ôl i’r campws.

Hoffwn felly ddiolch i chi nid yn unig am eich am eich amynedd a’ch dealltwriaeth, ond hefyd am eich parodrwydd i gydymffurfio â’r mesurau diogelwch rydym wedi rhoi ar waith. Da iawn hefyd am barhau i fod yn ymrwymedig i’ch astudiaethau.

Fel y gwyddoch, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai heriol iawn, ond rydym yn ymrwymedig i sicrhau ein bod yn darparu cymaint o addysgu wyneb yn wyneb ag sy’n bosib, fel y gallwch gael y profiad gorau un.

Dyma yw ein hymagwedd o hyd, a dyna pam mae ein holl fyfyrwyr wedi dychwelyd i’r campws. Fodd bynnag, mae gennym gyfrifoldeb i chi ac i’n staff i geisio lleihau trosglwyddiad y feirws, sy’n golygu y bydd gofyn i ni ddefnyddio’r model grwpiau cyswllt, fel y gwnaethom yn llwyddiannus y llynedd.

Deallwn nad yw hyn yn berffaith o bell ffordd, yn enwedig os yw’ch ffrindiau mewn grwpiau eraill, ond gobeithiwn, ymhen peth amser, y gallwn symud i ffwrdd o’r model hwn.

Fe weithiodd y model yn dda iawn yr wythnos diwethaf. Mae;r rhan fwyaf o gyrsiau ac arholiadau’n cael eu darparu wyneb yn wyneb ac roedd nifer yr absenoldebau yn llawer is na’r hyn yr oeddem wedi disgwyl ac yn is o lawer na lefelau sefydliadau eraill ledled y wlad.

Rydym yn llwyr ymrwymedig i sicrhau eich diogelwch yn y Coleg. Dyma pam rydym yn eich annog i gael eich brechu ac i barhau i wneud profion llif unffordd yn rheolaidd. Brechiadau yw’r ffordd orau o amddiffyn ein hunain rhag y feirws. Os hoffech ragor o wybodaeth am y brechiadau, cliciwch i linc isod i gyrchu gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn olaf, hoffwn ddiolch i bawb unwaith eto am ein helpu i chware rhan wrth barhau i gadw cymuned y Coleg yn ddiogel.

Diolch, a da iawn.

Mark Jones, Pennaeth