Skip to main content
Hair apprentice heads to London Fashion Week

Prentis trin gwallt yn mynd i Wythnos Ffasiwn Llundain

Mae prentis Trin Gwallt o Gorseinon wedi cael blas ar y ‘bywyd bras’ yn ystod Wythnos Ffasiwn Llundain, diolch i’w chysylltiadau â Choleg Gŵyr Abertawe.

Mae Lucy Britton, sy’n astudio tuag at NVQ Lefel 2 yng Nghanolfan Broadway y coleg, wedi bod yn gweithio’n amser llawn yn The Hair Lounge yn Fforestfach am y flwyddyn ddiwethaf. Mae perchennog y salon, Marc Isaac, hefyd yn cael ei gyflogi gan y coleg fel tiwtor / aseswr trin gwallt.

Mae Lucy, Marc a’r tîm yn The Hair Lounge wedi dychwelyd o Lundain yn ddiweddar lle cymeron nhw ran yn yr Wythnos Ffasiwn, gan steilio gwallt modelau i’r sioeau brigdrawst. Fe’u gwahoddwyd i gymryd rhan yn Wythnos Ffasiwn Llundain ar ôl i un o steilwyr Daniel Galvin yn Selfridges weld eu gwaith ar-lein.

“Roedd Lucy yn wych, ac roedd hi wedi ein helpu ni a’r steilwyr o Daniel Galvin â hyder,” dywedodd Marc. “Roedd yn brofiad anhygoel ac un fydd yn edrych yn wych ar ei CV.”

“Rydyn ni wrth ein bodd i gael Marc yn gweithio gyda ni,” dywedodd y Rheolwr Maes Dysgu Bernie Wilkes. “Fel cyflogwr blaenllaw yn Abertawe a pherchennog salon arobryn, mae’n wych ei fod e’n gallu rhoi’r fath gyfle anhygoel i brentisiaid addawol fel Lucy.”