Skip to main content
Seremoni raddio addysg uwch flynyddol Coleg Gŵyr Abertawe yn Arena Abertawe

Seremoni raddio addysg uwch flynyddol Coleg Gŵyr Abertawe yn Arena Abertawe

Fe wnaeth tua 300 o fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe fynychu digwyddiad graddio arbennig yn Arena Abertawe ar 16 Tachwedd 2022. Cynhaliwyd y digwyddiad i ddathlu myfyrwyr a astudiwyd cyrsiau addysg uwch a rhaglenni proffesiynol yn y Coleg, gan na chawsant gyfle i ddathlu eu llwyddiannau oherwydd y pandemig. Roedd ein graddedigion diweddaraf hefyd yn bresennol yn y digwyddiad.

"Mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio bellach ers i ni gynnal seremoni raddio, ac felly rydym yn dathlu llwyddiannau ein myfyrwyr a’u cymwysterau dros y tair i bedair blynedd diwethaf.” Meddai’r Pennaeth, Mark Jones. “Mae’r digwyddiad wedi bod yn un gwych, a braf yw gweld myfyrwyr a astudiwyd amrywiaeth eang o gyrsiau addysg uwch yn dathlu gyda’u teuluoedd a’u ffrindiau. Mae’n gyfle i’r Coleg i ddathlu.”

Mae’r Coleg yn cydweithio â nifer o brifysgolion gan gynnwys Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Swydd Gaerloyw. Rydym hefyd yn gweithio â chyrff dyfarnu proffesiynol i sicrhau’r cymwysterau hyn. Gwisgodd rhai o’n myfyrwyr eu capiau a’u gynau i ddathlu cyflawniadau mewn cyrsiau safon uwch megis busnes, gwyddoniaeth, cyfrifiadureg, peirianneg, gofal plant, tai a llawer mwy.

"Mae’r myfyrwyr wedi profi llawer o heriau yn ddiweddar ac maen nhw wedi bod yn gweithio’n galed iawn i ennill eu cymwysterau. Maen nhw wedi bod yn aros tair blynedd i gael cyfle i ddathlu, ac mae hyn wedi bod yn rhwystredig i ni i gyd”, meddai Nikki Neale, Cyfarwyddwr Ansawdd a Chwricwlwm. “Hyfryd yw cael dathlu mewn lleoliad mor odidog gyda graddedigion a’u teuluoedd.  Hir pob aros. Mae gan y rhan fwyaf o’r myfyrwyr sy’n graddio swyddi amser llawn a theuluoedd, ac mae cydbwyso hynny â bod yn raddedig yn gyflawniad gwych ac mae’r Coleg yn falch iawn ohonyn nhw i gyd."

Fe wnaeth y Coleg hefyd ddyfarnu Cymrodoriaethau Coleg, sef cydnabyddiaeth gan Lywodraethwyr y Coleg i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig naill ai i’r Coleg, i addysg neu ddinas Abertawe.


Cyflwynodd Meirion Howells, Cadeirydd y Corff Llywodraethu, y gwobrau hyn, gan longyfarch Joanna Page am ei chyfraniad nodedig i ffilm, theatr a theledu ac am godi proffil Abertawe ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.

Derbyniodd Rob Stewart, Arweinydd Dinas a Sir Abertawe, longyfarchiadau am wneud cyfraniad nodedig i adfywiad economaidd Abertawe ac am barhau i godi proffil y ddinas.

Unwaith eto, llongyfarchiadau mawr i bob un o’r myfyrwyr a raddiodd o Goleg Gŵyr Abertawe. Maen nhw’n achos balchder iddyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, eu ffrindiau ac i’r Coleg. Pobl lwc iddyn nhw yn eu gyrfaoedd ac rydym yn edrych ymlaen at glywed am eu llwyddiant parhaus.

Ydych chi eisiau bod yn un o fyfyrwyr alumni Coleg Gŵyr Abertawe? Archwiliwch lwybrau addysg uwch, gyrfa newydd neu gyfleoedd am ddyrchafiad heddiw! Ewch i’r adran addysg uwch ar ein gwefan.