Skip to main content

Stori llwyddiant sgiliau ar gyfer diwydiant

Mae'r prosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop Sgiliau ar gyfer Diwydiant yn ceisio datblygu lefel sgiliau unigolion cyflogedig, gan gynnwys cyfranogwyr hunangyflogedig sydd heb unrhyw gymwysterau ffurfiol a'r rhai sydd â chymwysterau hyd at a chan gynnwys Lefel 7.

Mae'r prosiect yn ceisio cynorthwyo dilyniant trwy gefnogi hyfforddiant sy'n sicrhau bod darpariaeth dysgu seiliedig ar waith yn ateb anghenion cyflogwyr a gweithwyr unigol.  Mae'r prosiect hefyd yn rhoi sylw i fylchau sgiliau allweddol yn y farchnad lafur a all gefnogi twf economaidd a dilyniant unigol ac, felly, sicrhau bod sgiliau yn parhau'n gyfoes a bod anghenion cyflogwyr yn cael eu hateb.

Roedd Alex, sy'n cymryd rhan ym mhrosiect Cronfa Gymdeithasol Ewrop Sgiliau ar gyfer Diwydiant, eisoes wedi cwblhau cymwysterau Lefel 2 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn awyddus i ddatblygu ei sgiliau  ymhellach, felly penderfynodd gofrestru yng Ngholeg Gŵyr Abertawe i ennill Diploma Lefel 3.  Drwy wneud hyn, fe gynyddodd ei lefel sgiliau yn y gweithle ac arweiniodd hyn at wella'r gofal a roddir i'w gleientiaid, gwella perfformiad a gwybodaeth arbenigol, a sicrhau'r enillion mwyaf o fuddsoddiad ei gyflogwr.

Drwy gefnogaeth y prosiect Sgiliau ar gyfer Diwydiant llwyddodd Alex i gael mwy o hyder o fewn ei rôl yn y gwaith, symud ymlaen i'r cymhwyster lefel uwch a dysgu sut i addasu a chroesawu newid.

Roedd cyllid Sgiliau ar gyfer Diwydiant wedi chwarae rhan fawr o ran galluogi Alex i ddatblygu yn ei rôl a pharhau i wella ei sgiliau a bod yn rhan hanfodol o'i sefydliad yr un pryd.  O ganlyniad uniongyrchol i gyllid Sgiliau ar gyfer Diwydiant, mae wedi ennill cymhwyster Ymarfer Uwch Lefel 5 sydd wedi'i alluogi i wneud cynnydd sylweddol o fewn ei rôl.

Erbyn hyn mae Alex yn gweithio tuag at ei gymhwyster TAQA (Addysgu a Dysgu), mae e'n magu hyder yn gyson ac mae'n ennill sgiliau newydd a fydd yn rhoi gwell ddealltwriaeth iddo o'i rôl a'r sector y mae'n gweithio ynddo.  Yn ogystal, bydd cyfle ganddo i ddilyn llwybrau gyrfa ychwanegol o fewn y sefydliad a throsglwyddo ei wybodaeth a'i sgiliau i weithwyr eraill.

Mae Alex wedi gweithio'n galed trwy bob lefel - yn dechrau ar Lefel 2 gyda sgiliau a gwybodaeth gyfyngedig i gwblhau Lefel 5 mewn Ymarfer Uwch.  Mae hyn wedi bod yn llwyddiant arbennig iddo fe'n bersonol a gall Alex ddefnyddio ei wybodaeth a'i sgiliau i reoli tîm o staff a sicrhau rheolaeth a gweithrediad rhwydd ei weithle.