Skip to main content
Tîm AD Coleg Gŵyr Abertawe yn Ennill Gwobr Genedlaethol

Tîm AD Coleg Gŵyr Abertawe yn Ennill Gwobr Genedlaethol

Cafodd Tîm Adnoddau Dynol (AD) Coleg Gŵyr Abertawe eu hanrhydeddu â gwobr glodfawr ‘Menter Iechyd a Lles Gorau’r Sector Cyhoeddus/Trydydd Sector 2023’ yn ddiweddar gan y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Mae Gwobrau Rheoli Pobl CIPD ymhlith yr anrhydeddau mwyaf uchel eu bri a chystadleuol ym maes AD a rheoli pobl ac, eleni, Tîm AD a Lles Coleg Gŵyr Abertawe oedd yr enillwyr haeddiannol wrth gystadlu yn erbyn sefydliadau eraill ledled y DU.

Mae’r wobr hon yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg i les gweithwyr ac mae’n ffordd o gydnabod ein rhaglen iechyd a lles arloesol sydd wedi codi ymwybyddiaeth pobl o symptomau’r perimenopos a’r menopos a’r cymorth sydd ar gael i staff.

Mae'r tîm wedi bod yn brysur yn cynnal Caffi Menopos yn rheolaidd ynghyd â chynnig hyfforddiant ar sut i gefnogi staff sy’n mynd drwy perimenpops a’r menopos. Yn ogystal â hyn, maent wedi bod yn cynnig seminarau ar sut i reoli symptomau a chyfleoedd i staff gwrdd ag arbenigwyr menopos. Mae’r holl waith yma wedi cyfrannu at ennill Achrediad Menopos-gyfeillgar i’r Coleg. 

Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad bord gron ar fenopos gyda hyrwyddwyr menopos y Llywodraeth(Gweinidog Symudedd Cymdeithasol, Ieuenctid a Dilyniant, Caroline Nokes, Cadeirydd Pwyllgorau Menywod a Chydraddoldeb, Carolyn Harris, AS Dwyrain Abertawe a Helen Tomlinson, Hyrwyddwr Cyflogaeth Menopos) a chyflogwyr allweddol lleol yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti i drafod Menopos yn y gweithle. Mae staff a Myfyrwyr hefyd wedi cael cyfle i wisgo Menovest TM, sef dilledyn sy’n efelychu pyliau poeth.

Yn ogystal â hyn, mae staff wedi cael cyfle i gymryd rhan mewn Menter Beilot gan Newson Health lle maent wedi bod yn derbyn cymorth a thriniaeth ddiduedd mewn perthynas â pherimenopos a’r menopos. Mae’r fenter fuddugol hon a gafodd ei chlodfori am ei chynwysoldeb a’i heffeithiolrwydd wedi cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles staff y Coleg. Yn ôl un aelod o staff: “Mae’r cynllun wedi newid fy mywyd ac rwy’n teimlo’n llawer mwy gobeithiol am fy nyfodol o ganlyniad”.

Mae mentrau’r Coleg yn ymestyn y tu hwnt i’r menopos ac maent yn cwmpasu ystod eang o agweddau ar iechyd a lles, gan gynnwys rhaglenni ffitrwydd wythnosol, cymorth iechyd meddwl, gweithdai rheoli straen, ac maent oll yn medru cael eu cyrchu gan staff drwy’r porth pwrpasol.
 
Mewn arolwg staff diweddar, nododd 93% o’r cyfranogwyr bod y Coleg yn cefnogi eu hiechyd a’u lles mewn modd digonol. Mae’r adborth wedi bod yn ganologol iawn, gydag un aelod o staff yn nodi “Dw i erioed wedi gweithio mewn lle sy’n buddsoddi cymiant mewn iechyd. Mae yna rhywbeth at ddant pawb, o weithgareddau ffitrwydd i sesiynau celf. Maen nhw hefyd yn cynnig cwnsela a gwasanaeth ffisio i bobl sy’n dioddef o gyflyrau iechyd isorweddol neu faterion iechyd meddwl. Dw i’n teimlo’n lwcus iawn."

Mae’r Coleg hefyd yn cynnig Diwrnodau Lles, lle anogir staff i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gweithdai a sesiynau gwybodaeth sy’n hyrwyddo iechyd corfforol ac iechyd meddwl. 

Mae mentrau eraill yn cynnwys y gwobrau gwasanaeth hir, sy’n cydnabod teyrngarwch staff, ynghyd â diwrnodau sy’n codi ymwybyddiaeth o faterion sy’n ymwneud ag iechyd meddwl a chynwysoldeb LHDTC+. Yn ddiweddar, fe wnaeth y Coleg ennill Gwobr Efydd Stonewall ar gyfer cyflogwyr LHDTC+ cynhwysol a blaenllaw.

"Mae ein tîm AD wastad wedi bod yn ymrwymedig i les ein staff ac rydym yn cydnabod bod eu lles a’u hiechyd yn rhan hollbwysig o lwyddiant y Coleg," meddai Sarah King, Cyfarwyddwr AD 

"Mae derbyn y wobr genedlaethol hon gan CIPD yn anrhydedd o’r mwyaf ac mae’n adlewyrchiad o waith caled ac ymroddiad parhaus ein Tîm AD a Lles."

Trwy feithrin diwylliant sy’n hybu cydnabyddiaeth, lles a chymorth, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi creu amgylchedd lle mae gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u hannog i wneud eu gorau glas.

Cynhaliwyd seremoni wobrwyo ddisglair CIPD yn JW Marriott Grosvenor House, Park Lane, Llundain. Cynrychiolwyd y Coleg gan aelodau allweddol o’r tîm AD a Lles, ac roeddent yn hapus iawn i gasglu’r wobr.

Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg Gŵyr Abertawe i les gweithwyr ond, hefyd, mae’n ysbrydoliaeth i sefydliadau addysgol eraill a sefydliadau’r sector cyhoeddus i roi pwyslais hollbwysig i les eu gweithlu ym mhopeth a wnânt.

Erthygl ddiweddar gan The Times a’n hymrwymiad i godi ymwybyddiaeth o’r menopos a’r cymorth sydd ar gael i staff. Dablennwch amdano yma.