Skip to main content

Tîm pêl-droed Sgiliau Byw’n Annibynnol yn bencampwyr Ability Counts

Mae tîm pêl-droed Sgiliau Byw’n Annibynnol Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei goroni’n Bencampwyr Ability Counts Cymru Cymdeithas y Colegau am y bedwaredd flwyddyn yn olynol.

Ar ôl mynd trwodd heb gael eu curo, roedden nhw wedi trechu Coleg Sir Gâr 3-0 yn y rownd gyn-derfynol a Choleg Caerdydd a’r Fro 1-0 yn y rownd derfynol gyffrous.

Roedd y tîm wedi gweithio’n galed i ennill eleni ac maen nhw’n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaethau Cenedlaethol Cymdeithas y Colegau ym Mhrifysgol Nottingham yn 2018.

“Roedd y tîm yn llysgenhadon ardderchog dros Goleg Gŵyr Abertawe gan ennill urddas a balchder,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Liam Millinship. “Llongyfarchiadau mawr i’r bechgyn, a diolch yn fawr i reolwr y tîm Chris Wright, sydd wedi dod â thîm ardderchog drwodd fydd, heb os nac oni bai, yn cael cyfle i lwyddo yn y rowndiau cenedlaethol!”