Skip to main content
Myfyrwyr Teithio a Thwristraeth yn gwirfoloddi yn nigwyddiad Duathlon Mwmbwls

Teithiau maes yn brofiad dysgu da i’n myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth

Mae ein myfyrwyr Teithio a Thwristiaeth wedi bod yn brysur iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Yn ddiweddar, ymwelodd myfyrwyr Lefel 3 â Folly Farm i weld sut mae atyniadau ymwelwyr yn gallu denu gwahanol fathau o dwristiaid. Tynnon nhw luniau fel tystiolaeth o’r dulliau arallgyfeirio a ddefnyddir i ddenu cwsmeriaid newydd.

Teithiodd 15 myfyriwr o’r cwrs Lefel 3, blwyddyn 1 i Faes Awyr Bournemouth i ddilyn hyfforddiant Criw Caban yn Academi Hyfforddi JARE. Cymerodd y myfyrwyr ran mewn gweithgareddau ymarferol gan gynnwys y llithren argyfwng, yr arddangosiad diogelwch, chwilio mewn caban llawn mwg a gwagio awyren. Roedd yn ddiwrnod hyfforddi ardderchog lle cafodd myfyrwyr gipolwg wych ar fywyd stiward awyr.

Cynhaliwyd cynhadledd ‘Institute of Travel and Tourism Future You’ yn Arena Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, lle gwrandawodd y myfyrwyr teithio ar arbenigwyr diwydiant yn sôn am yrfaoedd, profiadau myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, a chafodd ffair yrfaoedd ei chynnal hefyd.

Rhedodd myfyrwyr Lefel 3, blwyddyn 2 eu digwyddiad cyntaf ym mwyty hyfforddi’r Coleg, sef The Vanilla Pod, ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Cafodd 24 o westeion allanol eu tretio i ‘De Prynhawn y Chwe Gwlad’ wedi’i ddylunio gan y myfyrwyr twristiaeth seiliedig ar thema’r Chwe Gwlad. Roedd myfyrwyr a staff lletygarwch ac arlwyo wedi helpu i wneud y danteithion a’u gweini. Nod y myfyrwyr oedd cynyddu refeniw i’r lleoliad a chodi proffil The Vanilla Pod i gwsmeriaid allanol.

Ac yn olaf, roedd dau fyfyriwr, Megan Gear a Faith Lloyd, wedi gwirfoddoli yn Nuathlon y Mwmbwls y penwythnos diwethaf. Roedden nhw wedi mwynhau’r profiad o ddysgu am ochr weithredol rhedeg digwyddiad a chyfarch athletwyr ar ddiwedd y ras!

Dysgwch fwy am ein cyrsiau Teithio a Thwristraeth.