Skip to main content
Trefniadau ar gyfer casglu tystysgrifau 2019

Trefniadau ar gyfer casglu tystysgrifau 2019

Os ydych chi’n bwriadu casglu eich canlyniadau'r wythnos yma, cofiwch ddod â phrawf adnabod (ID) gyda chi ar y diwrnod!
Mae eich cerdyn myfyriwr yn ddelfrydol ond gallwn hefyd dderbyn pasbort neu drwydded yrru (sydd â llun).
Ni fyddwn yn gallu cyhoeddi eich canlyniadau heb prawf adnabod, fell mae’n hanfodol eich bod yn cofio hyn.

Tystysgrifau Galwedigaethol
Bydd dysgwyr yn cael eu hysbysu pan fydd eu tystysgrif ar gael i’w chasglu.

Os na allwch ddod i gasglu’ch canlyniadau, rhaid i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig wedi’i lofnodi i’r unigolyn sy’n mynd i gasglu ar eich rhan. Rhaid i’r sawl sy’n casglu ar eich rhan ddod â dull adnabod ffotograffig gyda nhw hefyd.

Canlyniadau Safon Uwch a TGAU

Safon UG a Safon Uwch: Dydd Iau 15 Awst (9.30am)
TGAU: Dydd Iau 22 Awst (9.30am)

Os na allwch gasglu’ch canlyniadau ar y diwrnodau hyn, rhaid i chi ddarparu cadarnhad ysgrifenedig wedi’i lofnodi i’r unigolyn sy’n mynd i gasglu ar eich rhan. Rhaid i’r sawl sy’n casglu ar eich rhan ddod â dull adnabod ffotograffig gyda nhw hefyd. Ni allwn ryddhau canlyniadau heb hyn.

Bydd canlyniadau sydd heb eu casglu yn cael eu postio allan y diwrnod canlynol.