Skip to main content
Ymweliad â Tsieina yn llwyddiant

Ymweliad â Tsieina yn llwyddiant

Cafodd y Pennaeth Mark Jones wahoddiad gan Brifysgol Astudiaethau Tramor Beijing (PATB) – y brifysgol ieithoedd tramor orau yn Tsieina – i draddodi araith arbennig yn ei phumed Prif Uwchgynhadledd Bord Gron ar ‘heriau ac atebion ym maes addysg Ryngwladol’.

Roedd Mark hefyd wedi cael yr anrhydedd o gael ei benodi i Fwrdd Cynghori Rhyngwladol PATB.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae PATB wedi sefydlu nifer o ysgolion Rhyngwladol K-12, ac mae rhai ohonynt yn cynnig cymwysterau TGAU Rhyngwladol a Safon Uwch.

Fel rhan o’n partneriaeth addysgol, mae PATB eisoes wedi anfon dau grŵp o athrawon TGAU Rhyngwladol/Safon Uwch ar leoliadau hyfforddiant athrawon yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.