Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi y byddwn yn cymryd rhan yng Ngŵyl Ddysgu UNESCO Abertawe eleni ar ddydd Sadwrn 14 Mehefin. Fel rhan o ddathliad blwyddyn o hyd y ddinas i nodi 10fed pen blwydd Abertawe fel Dinas Ddysgu UNESCO, bydd myfyrwry Celfydydau Perfformio’r Coleg a dau fand o’r coleg yn perfformio yn fyw. Fel Coleg, byddwn yn cynnig sesiynau blasu ar ein harlwy gelf, gan ymgysylltu ag unigolion ynghych ein darpariaeth addysg i oedolion.
Bydd y digwyddiad yn gymysgedd bywiog o gerddoriaeth, dawns a chân a bydd sesiynau am ddim ar gael ar gyfer teuluoedd ac unigolion fel gallant archwilio cyfleoedd creadigol newydd. Hefyd, bydd profiadau ymarferol ar gael a pherfformiadau byw ledled y ddinas.
Dydd Sadwrn 14 Mehefin, 11:00am - 3:00pm. Bydd Gŵyl Ddysgu UNESCO, ar Lawnt yr Amgueddfa y tu allan i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn ddigwyddiad hwyl i'r teulu am ddim a fydd yn cynnig gweithdai a pherfformiadau.
Bydd dawnswyr a cherddorion o Goleg Gŵyr Abertawe yn perfformio ochr yn ochr â grwpiau fel Band Ieuenctid y Ganolfan Gymunedol Affricanaidd, prosiect cerddoriaeth ieuenctid Future Blood, Côr Nigeriaidd a Grŵp Cymunedol Tsieineaidd, a fydd yn perfformio caneuon yn y Gymraeg.
Roedd Elinor Franklin, Rheolwr Maes Dysgu Celfyddydau Gweledol, ABE ac ESOL Coleg Gŵyr Abertawe wrth ei bodd o ddarganfod ein bod yn cymryd rhan yn y digwyddiad:
"Rydyn ni’n gyffrous i arddangos dawn anhygoel ein dysgwyr a’n myfyrwyr celfyddydau perfformio yng Ngŵyl Ddysgu UNESCO eleni. Dyma gyfle gwych i bobl o bob oed ymgysylltu â’r celfyddydau, gan roi cynnig ar rywbeth newydd a darganfod sut gall dysgu gydol oed gyfoethogi eu bywyd.”
Uchafbwyntiau eraill yr Ŵyl:
· Dydd Iau 12 a Dydd Gwener 13: Bydd llyfrgelloedd Abertawe yn cynnal The Big Game Day, gan wahodd teuluoedd i fwynhau gemau megis jig-sos Scrabble a llawer mwy.
· Dydd Gwener 13 Mehefin, 10am - 2.30pm: Bydd Amgueddfa Dysgu Gydol Oes Abertawe yn cynnig cyfle i oedolion fraslunio mewn sesiwn greadigol, groesawgar.
· Dydd Gwener 13 Mehefin: Bydd ysgolion Abertawe yn perfformio yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant, ochr yn ochr â stondinau gwybodaeth gan sefydliadau lleol fel y Gwasanaeth Tân.
I gofrestru ar gyfer ein Noson Agored Addysg Oedolion ar ddydd Mawrth 1 Gorffennaf ar gampws Tyococh neu i ddarganfod pa gyfleoedd sydd gan Goleg Gŵyr Abertawe eu cynnig i oedolion, cliciwch y linc.