Skip to main content
A promotional image advertising a Wales Week London event

Coleg Gŵyr Abertawe yn ymuno ag Wythnos Cymru Llundain 2024

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi y byddwn yn cymryd rhan yn Wythnos Cymru Llundain, sef sioe flynyddol sy’n arddangos gweithgareddau a digwyddiadau sy’n dathlu a hyrwyddo Cymru yn ei holl ysblander.

Ar y cyd â phartneriaid clodfawr megis The Skills Centre, CITB, The Earls Court Development Company a Felicitas, rydym yn gyffrous i gynnig digwyddiad arbennig o’r enw Adeiladu Dyfodol Gwyrddach: Sgiliau cynaliadwy blaenllaw Cymru ar gyfer Amgylchedd Adeiladu’r DU.

Nod y digwyddiad yw cynnig platfform canolog i arweinwyr, arbenigwyr a rhanddeiliaid y diwydiant gyfnewid mewnwelediadau, arferion gorau a strategaethau arloesol, fel y gallant gyflawni twf mewn perthynas â mentrau cynialadwy o fewn sector amgylchedd adeiledig y DU.

Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd, gan gynnwys:

  • Earls Court Development Company (I’w gadarnhau) - Croeso a throsolwg cryno o fentrau gwyrdd Earls Court Development
  • Siaradwr i’w gadarnhau - Yr angen am sgiliau adeiladu traddodiadol i osod ffermydd gwynt yn Ne Cymru.
  • Jon Howlin, Prif Swyddog gweithredol The Skills Centre - Problem insiwleiddio Llundain a’r datrysiadau; cyflwyniad i raglen bwtcamp insiwleiddio The Skills Centre.
  • Paul Rogers, Pennaeth Ymgysylltu â Chyflogwyr Coleg Gŵyr Abertawe – creu nenlinell gynaliadwy i’r ddinas drwy raglenni prentisiaeth Rheoli Cyfleusterau Gwyrdd
  • Leigh Hughes, Cadeirydd CITB yng Nghymru - Cynnig diwydiant i gefnogi datblygiad Sgiliau Gwyrdd yn yr amgylchedd adeiledig 

Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Llun, 4 Mawrth, 2.00pm – 4.00pm yn Earls Court Development Company, Ystafelloedd Prosiect 16-18, SW6 1TT.

Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i ymgysylltu ag arbenigwyr, rhannu profiadau ac archwilio cyfleoedd i gydweithio. Cofrestrwch yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â hello@gcs.ac.uk

Ymunwch â ni yn Wythnos Cymru Llundain 2024 wrth i ni gymryd cam tuag at ddyfodol gwyrddach!