Fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe groesawu carfan newydd o siaradwyr Cymraeg i Gampws Gorseinon i ddathlu Diwrnod Croeso 2026.
Mae’r Diwrnod Croeso yn gyfle i staff a dysgwyr fwynhau amrywiaeth o weithgareddau sydd wedi’u cynllunio i gael pawb i ddefnyddio’u Cymraeg wrth ddod i adnabod ei gilydd.
Ymhlith y gwesteion arbennig ar y diwrnod roedd y dylanwadwr Jess Martin sy’n astudio PhD mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol a Dwyieithrwydd ym Mhrifysgol Abertawe ac sy’n rhannu ei thaith ddysgu gyda’i miloedd o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol.
Hefyd yn bresennol roedd y creawdwyr / awduron / cyflwynwyr Gwion Ifan a Jac Northfield, sy’n fwyaf adnabyddus am eu gwaith ar frand cynnwys digidol S4C, Hansh, ac am ysgrifennu a serennu yn y gyfres ddrama gomedi Gwagle.
“Cafodd pawb amser gwych yn dod i nabod ei gilydd, defnyddio eu Cymraeg a chael hwyl,” meddai Rheolwr Dwyieithrwydd y Coleg, Helen Humphreys. “Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau’r golff gwallgof, y bwth lluniau a’r gweithgareddau adeiladu tîm gydag Urdd Gobaith Cymru. Roedden nhw hefyd yn gallu cwrdd â staff Cymraeg a chlywed mwy am gigs a gweithdai Cymraeg gan Fenter Iaith Abertawe. Heb sôn am y cacennau a pizzas Dominos blasus am ddim!
“Mae mor bwysig creu’r ymdeimlad hwnnw o gymuned, a bob blwyddyn mae Diwrnod Croeso yn ffordd wych o ddechrau’r tymor newydd.
“Diolch yn fawr iawn i’n gwesteion arbennig Jess, Gwion a Jac ac i bawb a helpodd i wneud y diwrnod mor gofiadwy i’n myfyrwyr ar ddechrau blwyddyn academaidd newydd sbon.”
Roedd y myfyrwyr yn gallu dysgu rhagor am y Gymraeg yn y Coleg, sut y gallant astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, bod yn Llysgennad Cymraeg a chymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau Cymraeg.