Skip to main content

Llwyddiant i nofiwr o’r coleg

Bu Niamh Jones myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe, sy’n astudio Lefel-A ar gampws Gorseinon, yn cymryd rhan yn Gala Nofio Genedlaethol yr Urdd yn ddiweddar. 

Ennillodd y fedal efydd yn y ras broga.  Roedd hi’n cystadlu yn erbyn disgyblion a myfyrwyr ar draws Cymru gyfan yn y categori oedran 16-19.

“Dyma’r ail dro i fyfyrwyr Aelwyd Coleg Gŵyr gymryd rhan yn y gystadleuaeth, felly rydym fel coleg yn hapus iawn gyda llwyddiant Niamh.”  Dywedodd Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y Coleg. “Y gobaith yw y gallwn barhau gyda chystadlu mewn amrywiaeth o gystadlaethau’r Urdd dros y flwyddyn, ac adeiladu ar y llwyddiant rydym wedi cael dros y blynyddoedd, gan adio nofio at y rhestr!”