Skip to main content
Students around a table

Mix Up! Trafodaeth am Ddileu Gwahaniaethu ar Sail Hil

Sesiwn lwyddiannus arall i fyfyrwyr Campws Gorseinon, Coleg Gŵyr Abertawe. Platfform digidol yw MixUp! sy’n cynnig ystod o bynciau trafod sy’n canolbwyntio ar themâu penodol, a’r thema ddiweddaraf oedd Dileu Gwahaniaethu ar sail Hil.

“Mae platfform MixUp! yn hawdd i’w defnyddio. Mae’n cynnwys cyn lleied o rwystrau ag sy’n bosib, gan annog myfyrwyr ledled Ewrop i gynnal trafodaethau ystyrlon gyda’i gilydd i bwyso a mesur testunau cymdeithasol pwysig.” Llawlyfr MixUp!

Fe wnaeth ein myfyrwyr ymgysylltu â myfyrwyr o bob cwr o Ewrop i glywed eu safbwyntiau. Bwriad MixUp! yw cynnig adnodd arloesol i’r sector addysg ddinesig, gan weithredu fel platfform ar-lein lle gall fyfyrwyr o Ewrop gysylltu â’i gilydd.

Fe wnaeth myfyrwyr lleol a rhyngwladol o Goleg Gŵyr Abertawe a gymerodd ran y profiad ddisgrifio’r platfform fel un diddorol sy’n cynnig cyfleoedd i siarad â chyfoedion na fyddech fel arfer yn cael cyfle i gyfathrebu â nhw.

Thema nesaf MixUp! yw Cydfyw mewn Heddwch. Cadwch lygad allan ym mis Mai i weld ein myfyrwyr yn cydweithio unwaith eto!