Yn ddiweddar, fe wnaeth Coleg Gŵyr Abertawe ddathlu cyflawniadau gweithwyr proffesiynol Dawsons Estate Agents, a gwblhaodd gymhwyster Lefel 2 CIH mewn Gosod a Rheoli Eiddo Preswyl.
Mae nifer y staff o gwmni Dawsons sy’n astudio gyda ni yn dangos pwysigrwydd ennill cymwysterau cydnabyddedig a datblygu sgiliau newydd trwy hyfforddiant proffesiynol. Cyflwynwyd tystysgrifau i’r dysgwyr yn ystod digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti, er mwyn cydnabod eu gwaith caled a'u hymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol yn ogystal â'u hymroddiad i godi safonau yn y sector rhentu preifat.
Mae'r cymhwyster (sydd wedi'i achredu gan y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) yn darparu dealltwriaeth gynhwysfawr i ddysgwyr o gyfraith tenantiaeth, rheoli eiddo a gofal cwsmeriaid yn y sector rhentu preifat. Mae’r cymhwyster yn annog a hyrwyddo safonau rhagorol yn y sector rhent preifat mewn modd gweithredol, gan helpu landlordiaid, asiantau gosod a thenantiaid i ddeall a chyflawni eu cyfrifoldebau yn well.
Mae'r rhaglen hefyd yn darparu gwybodaeth sylfaenol angenrheidiol i landlordiaid preswyl unigol yn ogystal ag asiantau gosod a rheoli, fel y gallant gyflawni eu rolau yn effeithiol mewn sector sy’n esblygu’n barhaus.
Dywedodd Lucy Bird, Rheolwr Masnachol Coleg Gŵyr Abertawe:
“Rydyn ni’n falch iawn o holl ddysgwyr Dawsons Estate Agents sydd wedi cwblhau'r cymhwyster Lefel 2 yn llwyddiannus. Mae eu hymrwymiad i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau yn dangos ymroddiad cryf i broffesiynoldeb a gwella safonau ar draws y sector rhentu preifat. Mae effaith y rhaglen yn amlwg iawn, o uwchsgilio staff presennol i sicrhau bod gweithwyr proffesiynol yn cadw i fyny â'r newidiadau deddfwriaethol diweddaraf a datblygiadau o fewn y diwydiant.
Braf yw gweld dysgwyr yn parhau â'u datblygiad proffesiynol drwy symud ymlaen i’r rhaglen Lefel 3, gan wella eu harbenigedd yn y sector ymhellach. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda sefydliad rhagweithiol sy'n cydnabod gwerth datblygu pobl at ddibenion cefnogi a gwella'r sector rhentu preifat yng Nghymru."
Ychwanegodd Ricky Purdy, Perchennog Busnes yn Dawsons Estate Agents:
“Dyma gydweithrediad cyffrous iawn, ac rydym yn parhau â'n taith yma yn Dawsons gan sicrhau bod ein timau yn cyd-fynd â'r deddfwriaethau a'r gofynion sy'n newid yn barhaus o fewn y sector.
Mae nifer fawr o’n staff wedi cymryd rhan a mwynhau'r broses yn fawr iawn yn ystod y misoedd diwethaf, ac maen nhw bellach wedi ennill cymhwyster a gwella eu gwybodaeth. Mae wedi bod yn bleser llwyr. Rydyn ni’n i edrych ymlaen at barhau â'r daith hon a chydweithio â'r Coleg trwy gydol 2026 a thu hwnt."
Fe wnaeth y dathliad dynnu sylw at gyflawniadau unigol y dysgwyr a hefyd pwysigrwydd hyfforddiant proffesiynol parhaus wrth gefnogi sector rhentu preifat o ansawdd rhagorol, wedi'i reoleiddio'n effeithiol.
Yn dilyn llwyddiant parhaus a'r galw cynyddol am y cymhwyster Lefel 2, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ehangu ei ddarpariaeth i gynnwys cymhwyster Lefel 3 CIH mewn Gosod a Rheoli Eiddo Preswyl.
Mae'r rhaglen Lefel 3 yn darparu gwybodaeth a dealltwriaeth i ddysgwyr o feysydd allweddol ym maes rheoli a gosod eiddo preswyl, gan hwyluso’r broses o symud ymlaen i rolau fel landlordiaid, rheolwyr eiddo a rheolwyr tai. Nod y rhaglen yw rhoi’r arbenigedd i ddysgwyr fel y gallant weithio'n effeithiol mewn rolau gosod rheng flaen a rolau rheoli eiddo. Yn ogystal, mae’r cwrs yn cefnogi'r rhai sydd eisoes yn gweithio mewn meysydd cysylltiedig i wella eu gwybodaeth broffesiynol a'u rhagolygon gyrfa.
Mae cyflwyno rhaglen o’r fath yn adlewyrchiad o ymrwymiad y Coleg i ddiwallu anghenion y diwydiant a chefnogi datblygiad proffesiynol unigolion sy’n gweithio yn y sectorau tai ac eiddo.
Llongyfarchiadau i’r dysgwyr ar eu cyflawniadau. Mae eu llwyddiant yn amlygu ymroddiad parhaus Coleg Gŵyr Abertawe i gefnogi datblygiad proffesiynol, hyrwyddo rhagoriaeth a chodi safonau ar draws y diwydiant tai.
I gael rhagor o wybodaeth am gymwysterau Gosod a Rheoli Eiddo Preswyl CIH (Lefel 2 a 3), e-bostiwch training@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284400.