Newyddion y Coleg
Cyngerdd elusennol arbennig i godi ymwybyddiaeth o MND a chodi arian ato
Cafwyd noson arbennig o gerdd a chân yn ddiweddar yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wrth i ni gynnal cyngerdd elusennol i gefnogi’r frwydr yn erbyn Clefyd Niwronau Motor (MND).
Yn ystod y digwyddiad - a gynhaliwyd ar Gampws Tycoch - cafodd côr meibion Gwalia Singers, Abigail Rankin, Isobel McNeill a Carys Morgan (myfyrwyr) gyfle i berfformio.
Graddedigion Coleg 2024 yn dathlu eu cyflawniadau
Mae dros 150 o fyfyrwyr addysg uwch Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael cyfle i ddathlu eu llwyddiant mewn seremoni raddio arbennig yn Arena Abertawe.
Cawsant gyfle i ddathlu eu cyflawniadau mewn ystod eang o bynciau lefel uwch megis busnes a chyfrifeg, cyfrifiadura cymhwysol, addysgu, peirianneg, arwain a rheoli, iechyd a goal cymdeithasol a gofal plant.
Tîm anhygoel y Coleg yn mynd i ‘Oscars' y proffesiwn addysgu
Bydd tîm addysgu ysbrydoledig o Goleg Gŵyr Abertawe yn mynd i Lundain ar gyfer ‘Oscars’ y proffesiwn addysgu ar 30 Tachwedd, lle bydd seremoni Gwobrau Addysgu Cenedlaethol Pearson y DU yn anrhydeddu ac yn dathlu cyflawniadau rhagorol addysgwyr ledled y DU.
Yn y seremoni, bydd tîm Tirlunio ac Eco-adeiladu’r Coleg yn cystadlu i ennill Gwobr Aur, ar ôl cael eu cydnabod ymhlith miloedd o enwebeion yn gynharach eleni pan enillon nhw Wobr Arian am Dîm AB y Flwyddyn.
Penodi Llysgenhadon Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyhoeddi 20 Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25, gyda thri ohonynt wedi eu penodi mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg.
Bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddysgwyr yn y coleg o fanteision astudio’n ddwyieithog, a’u hannog i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg tra yn y coleg i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.
Ymhlith y criw newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eleni bydd:
Alexandra Anekore
Aneurin Hywel
Ariella Rees-Davies
Tîm cyflogadwyedd yn cystadlu am wobrau mawr
Mae darpariaeth cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Cymdeithas Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth (ERSA) 2024.
Darllen mwy
Myfyrwyr Dawnus yn cystadlu i ennill teitl ‘Gorau yn y DU’
Bydd pedwar myfyriwr yn cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Worldskills UK eleni. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 19- 22 Tachwedd mewn lleoliadau ledled Manceinion.
Y myfyrwyr sy’n cynrychioli’r Coleg:
Darllen mwy
Dysgwyr disglair yn nigwyddiad dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe
Yr wythnos hon, cynhaliwyd digwyddiad i arddangos gwaith oedolion sy’n ddysgwyr er mwyn dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS).
Cafodd y digwyddiad dathlu ei gynnal ar 7 Tachwedd ochr yn ochr â digwyddiad cynllunio UNESCO. Mynychodd grwpiau dysgu ffurfiol ac anffurfiol y digwyddiad er mwyn helpu i gynllunio dathliadau degfed pen blwydd Dyfarniad Dinas sy’n Dysgu UNESCO.
Dathlu staff yng Ngwobrau Gwasanaeth Hir arbennig
Mae tua 70 o staff hir eu gwasanaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael eu dathlu mewn digwyddiad arbennig yn Stadiwm Swansea.com.
Sefydlwyd y Gwobrau Gwasanaeth Hir i gydnabod a diolch i’r aelodau staff hynny sydd wedi rhoi o leiaf 20 mlynedd o wasanaeth i Goleg Gŵyr Abertawe.
Fe wnaeth darlithwyr, rheolwyr a staff cymorth busnes o bob maes o’r sefydliad dderbyn rhoddion wedi’u personoli cyn mwynhau te prynhawn.
Darparwyd yr adloniant gan y delynores leol Bethan Sian a’r gantores dalentog Abigail Rankin, sydd yn fyfyriwr yn y Coleg.
Anerchiad am brifysgolion blaenllaw i ddysgwyr ifanc
Cafodd cannoedd o ddysgwyr ifanc eu gwahodd yn ddiweddar i lansiad Hyb Seren Abertawe ar gyfer 2024/25, lle roeddent yn gallu dysgu rhagor am y sgiliau sydd eu hangen i wneud cais i brifysgolion gorau’r DU.
Daeth bron 300 o fyfyrwyr o’r Coleg a chweched dosbarth ysgolion i’r digwyddiad, dan arweiniad Coleg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe, yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae y Brifysgol. Daeth llawer ohonynt â’u rhieni a’u gwarcheidwaid hefyd.
Digwyddiad ar y gweill – Darparu Rhagoriaeth Mewn Eiddo: Meistroli Gosod Preswyl
Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi digwyddiad arbennig a fydd yn cynnig cyfle unigryw i landlordiaid, asiantau gosod a rheolwyr eiddo gwrdd yn uniongyrchol â’n harbenigwyr tai, gan archwilio llwybrau newydd ar gyfer datblygiad staff.
Darllen mwyPagination
- Previous page ‹‹
- Page 14
- Tudalen nesaf ››