Braf oedd croesawu disgyblion o Ysgol Uwchradd Arbrofol Shandong i Goleg Gŵyr Abertawe ym mis Chwefror 2026 fel rhan o ymweliad wythnos o hyd. Roedd y myfyrwyr yn hyderus iawn wrth gyfathrebu â staff yn Saesneg, ac fe wnaethon nhw wynebu her ychwanegol trwy gael eu cyflwyno i’r iaith Gymraeg mewn sesiynau cyfeillgar a drefnwyd gan ein tîm Cymraeg. Hefyd, cawsant gyfle i gwrdd â thiwtoriaid Rhydgrawnt i ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, gan gryfhau eu gallu i ddatrys problemau, gwerthuso a dadansoddi.
Yn ystod y trip, fe wnaeth y disgyblion ymweld â Chyfadran Meddygaeth Prifysgol Abertawe, lle cawsant brofiadau dysgu ymarferol gwych. Hefyd, cawsant gyfle i gymryd rhan mewn ymarferion CPR cardiofasgwlaidd a sesiwn creu capsiwlau fferyllol. Fe wnaeth y sesiynau hyn gynnig mewnwelediad gwerthfawr i hyfforddiant meddygol a gwyddonol.
Fe aeth y grŵp i ganol dinas Abertawe, gan gynnwys marchnad dan do mwyaf Cymru, lle gwnaethon nhw fwynhau blasu cacennau Cymreig traddodiadol. Yn ogystal, fe wnaethon nhw sgwrsio yn frwdfrydig â phobl leol drwy gydol yr ymweliad, ac fe aethon nhw i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, gan ddangos llawer o chwilfrydedd ynghylch treftadaeth ddiwydiannol Cymru.
Ar y campws, cafwyd y cyfle i gysgodi dosbarthiadau Safon Uwch i gael blas ar bynciau cyfarwydd a newydd. Dangosodd lawer o’r disgyblion ddiddordeb mawr mewn Peirianneg a phynciau cysylltiedig.
Fe aethon nhw i Rossili, stadiwm Swansea.com a Marina Abertawe. I gloi’r wythnos, cynhaliwyd seremoni fer i gydnabod eu gwaith caled, gan roi cyfle iddynt gwrdd â dysgwyr lleol a disgyblion eraill sy’n rhan o gymuned myfyrwyr rhyngwladol y Coleg.