Oes gennych chi awydd i roi cynnig ar rywbeth gwahanol yr Hydref hwn? Neu ydych chi eisiau dysgu sgil newydd rydych chi wedi bwriadu ei dysgu ers tro byd?
Gydag ystod eang o gyrsiau yn dechrau ym mis Medi, mae Coleg Gŵyr Abertawe’n annog pobl i archwilio a darganfod y cyrsiau rydyn ni’n eu cynnig - yn enwedig os ydych yn dymuno dysgu rhywbeth newydd er hwyl, datblygu sgiliau ar gyfer gwaith neu yn cynllunio ar gyfer newid trywydd eich gyrfa.
Fel rhan o Wythnos Addysg I oedolion (Medi 21-27), byddwn yn cynnig amrywiaeth o sesiynau blasu am ddim.
Bydd y sesiynau wyneb yn wyneb yma yn cael eu cynnal ledled Abertawe ac ar-lein (ar ffurf gweminarau) a byddant yn ffordd dda o gael mewnwelediad i’n cyrsiau heb ymrwymo yn llawn.
Mae gennym lawer o gyrsiau ar gael, gan gynnwys: Rheoli Prosiectau, Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes, Siopa Ar-lein yn Ddiogel, Diogelwch Ar-lein, Cyflwyniad i Sashiko, Cyflwyniad i Wau a Chlytwaith.
Dysgu sy’n addas i fywyd go iawn
Mae dychwelyd i fyd addysg fel oedolyn yn gallu bod yn heriol, yn enwedig os ydych chi’n cydbwyso gwaith, teulu a phopeth arall.
Ond, mae yna lawer o ffyrdd gwahanol y gallwch astudio, p’un ai a ydych yn chwilio am sgiliau cyflogadwyedd, gweithio tuag at ddyrchafiad, ennill cymhwyster uwch neu ddysgu er hwyl.
I Horia Hirica, fe wnaeth astudio prentisiaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe droi diddordeb personol mewn marchnata yn yrfa broffesiynol.
Astudiodd gymhwyster Lefel 3 mewn Marchnata Digidol a Chyfryngau Cymdeithasol ochr yn ochr â'i rôl yn Veeqo ac fe wnaeth gymhwyso’r hyn a ddysgodd yn syth trwy gynnal ymgyrchoedd go iawn, lansio cynnyrch a strategaethau yn y farchnad.
Rhoddodd y profiad yr hyder iddo gymryd perchnogaeth o brosiectau a gweithio gydag uwch gydweithwyr, gan helpu i symud ei yrfa yn ei flaen.
Bellach, mae e wedi ymuno â Phwyllgor Prentisiaeth Amazon ac mae'n ymgymryd â chyfleoedd arweinyddiaeth newydd.
Dywedodd: "Peidiwch â gwahanu 'gwaith' ac 'astudio'; maen nhw’r un peth."
Mwy na chymhwyster yn unig
Mae ei brofiad yn enghraifft dda o sut y gall addysg i oedolion arwain at lawer mwy na chymhwyster yn unig.
Mae addysg i oedolion yn cynnig sgiliau ymarferol i bobl, gan wella eu hyder. Maent hefyd yn rhoi cyfle i unigolion roi cynnig ar bethau mewn amgylchedd gwaith go iawn.
I Tom – myfyriwr aeddfed - mae astudio cwrs Mynediad i Fusnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cynnig cyfle unigol iddo – gan ei ganiatáu i barhau â'i addysg a chydbwyso gwaith a bywyd teuluol.
Mae'r cwrs rhan-amser wedi ei helpu i symud yn agosach at wireddu ei uchelgeisiau, wrth iddo symud yn nes at sicrhau lle yn y brifysgol.
Ychwanegodd Tom: "Yn ogystal â gwneud cais i astudio yn y brifysgol, rydw i wedi dechrau dylunio fy ngwefan fy hun ac wedi adeiladu fy musnes fy hun. Mae'r cwrs Mynediad i Fusnes wedi rhoi'r sgiliau i mi wneud hyn."
Rhywbeth ar gyfer pob cam o fywyd
Mae mwy nag un math o oedolyn mewn addysg ac mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cydnabod bod gan bobl fywydau ac ymrwymiadau personol.
Mae'r cyrsiau'n cael eu cynnal drwy gydol y flwyddyn ar wahanol adegau o'r dydd a'r nos, gydag opsiynau ar gael ar gampysau ledled Abertawe neu yn y gweithle.
Mae yna hefyd ddigon o gefnogaeth ar gael os nad ydych chi'n siŵr pa gwrs sydd fwyaf addas i chi.
Ac, fel dysgwr Coleg Gŵyr Abertawe, byddwch yn gallu cael mynediad at ddisgowntiau myfyrwyr.
Beth sydd ar gael?
Felly, p'un a ydych chi'n awyddus i ddysgu rhywbeth hollol newydd, eisiau datblygu eich sgiliau yn y gwaith, neu'n meddwl o ddifrif am ddilyniant gyrfa, efallai y dylech bori drwy’r cyrsiau sydd ar gael gennym.
Mae’n bosib y byddwch hyd yn oed yn darganfod yr hyn rydych wedi bod yn chwilio amdano ers amser hir.