Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi lansio cyfres o gyrsiau Lloriau ymarferol newydd sydd wedi'u cynllunio i helpu busnesau i atgyfnerthu eu gweithlu, mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau ac ymateb i ofynion cynyddol y diwydiant lloriau.
Bydd y cyrsiau'n cael eu cyflwyno yng Nghyfleuster Hyfforddi Lloriau pwrpasol y Coleg ar gampws Llys y Jiwbilî yn Fforestfach, Abertawe. Mae'r cyrsiau newydd yn cynnig hyfforddiant a fydd yn para deuddydd sy’n canolbwyntio ar Osod Carpedi, Finyl, Lloriau Domestig a Pharatoi Is-loriau. Am bris o £450 y pen (gan gynnwys TAW), mae'r cyrsiau'n cynnig cyfle hygyrch i gyflogwyr fuddsoddi yn eu timau, gan ganiatáu i ddysgwyr ddatblygu sgiliau newydd ac adeiladu ar eu profiad presennol.
Mae'r cyrsiau yn cyfuno gwybodaeth dechnegol hanfodol gyda hyfforddiant ymarferol mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar y diwydiant, gan roi cyfle i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i osod lloriau go iawn.
Dywedodd Lucy Bird, Rheolwr Datblygu Ansawdd Hyfforddiant Coleg Gŵyr Abertawe:
"Mae lansiad y cyrsiau hyn – a fydd yn cael eu darparu yn ein cyfleuster pwrpasol yn Llys Jiwbilî - yn adlewyrchiad o’n hymrwymiad i gefnogi'r diwydiant lloriau gyda hyfforddiant ymarferol o ansawdd uchel. Mae'r cyrsiau yn darparu profiad ymarferol i ddysgwyr mewn amgylchedd proffesiynol, gan eu helpu i ddatblygu sgiliau y gallant eu cymhwyso yn y gweithle yn syth.
P'un a yw cyflogwyr yn dymuno uwchsgilio staff presennol neu os ydy unigolion eisiau adeiladu ar eu harbenigedd, mae'r cyrsiau hyn yn cynnig cyfle gwerthfawr i ddatblygu sgiliau sy'n berthnasol i'r diwydiant, gan gefnogi twf y gweithlu ar draws y rhanbarth."
Mae'r tri chwrs canlynol yn mynd i’r afael â chamau allweddol mewn perthynas â gosod lloriau, o baratoi arwynebau i osod lloriau gorffenedig.
Gosod Carpedi: Yn datblygu gwybodaeth, sgiliau technegol ac ymwybyddiaeth diogelwch sydd eu hangen i osod carped yn broffesiynol. Mae’r hyfforddiant yn cynnwys paratoi isloriau a gosod carped ar ardaloedd gwastad, grisiau, grisiau trwyn tarw a grisiau troellog.
Finyl Domestig: Yn canolbwyntio ar y technegau sy'n ofynnol i osod lloriau finyl domestig i safon broffesiynol. Bydd dysgwyr yn dysgu sut i baratoi isloriau, profi lleithder, dewis glud a gosod finyl trwy ymgymryd â chyfuniad o theori ac ymarferion ymarferol.
Paratoi Is-loriau: Yn darparu’r camau hanfodol o ran paratoi lloriau gorffenedig, gan helpu dysgwyr i ddeall y technegau sydd eu hangen i greu sylfaen addas.
Mae'r cyrsiau'n addas ar gyfer unigolion sy’n newydd i’r diwydiant yn ogystal â gweithwyr proffesiynol profiadol, ac maent yn cynnig ffordd ymarferol i fusnesau ddatblygu gallu eu staff wrth helpu unigolion i ehangu eu harbenigedd. Drwy sicrhau bod hyfforddiant arbenigol ar gael yn lleol, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cefnogi cyflogwyr i fynd i'r afael ag anghenion sgiliau a chyfrannu at ddatblygiad parhaus y sectorau lloriau ar draws y rhanbarth.
Dywedodd Sarah Lowe, Pennaeth Hyfforddiant Coleg Gŵyr Abertawe:
"Mae datblygu gweithlu medrus yn hanfodol ar gyfer sicrhau twf a llwyddiant parhaus diwydiannau ledled De Cymru. Mae ein cyrsiau Lloriau newydd yn adlewyrchiad o’n hymrwymiad i gynnig hyfforddiant i gefnogi cyflogwyr trwy gynnig cyrsiau ymarferol ac ymatebol sy'n diwallu gofynion y diwydiant.
Trwy gynnig sgiliau lloriau arbenigol i ddysgwyr, rydym yn helpu busnesau i wella capasiti, gwella cynhyrchiant a buddsoddi yn eu gweithlu yn y dyfodol".
Gall busnesau ac unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau lloriau gofrestru eu diddordeb drwy gysylltu â training@gcs.ac.uk. Mae pob cwrs yn para dau ddiwrnod ac yn costio £450 y pen gan gynnwys TAW. Bydd y cyrsiau’n cael eu darparu yng Nghyfleuster Hyfforddi Lloriau pwrpasol y Coleg yn Llys Jiwbilî, Abertawe.