Skip to main content

Cyflwyniad i Letygarwch ac Arlwyo Lefel Mynediad 3 Available in Welsh

Amser-llawn
Lefel Mynediad 3
AGORED
Tycoch
Un flwyddyn
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn, byddwch yn dysgu hanfodion hylendid bwyd, iechyd a diogelwch, paratoi bwyd a gwasanaeth bwyty.

Gallwch ddisgwyl profiad ymarferol, go iawn, wrth weithio yn y ceginau masnachol a bwyty hyfforddi’r Vanilla Pod.

Gwybodaeth allweddol

  • 16+ oed
  • Diddordeb byw mewn lletygarwch ac arlwyo, coginio a gwasanaeth bwyd
  • Cyfweliad llwyddiannus, geirdaon boddhaol.

Byddwch yn cael eich asesu’n barhaus, trwy gyfuniad o dasgau ymarferol, aseiniadau ysgrifenedig, a llyfrynnau cwrs.

Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau Diploma Lefel 1 Coginio ac Arlwyo Proffesiynol a Diploma Lefel 2 Coginio ac Arlwyo Proffesiynol.

Neu, gallech ddatblygu’ch profiad a’ch sgiliau ymhellach mewn cyflogaeth fel cynorthwyydd arlwyo neu gynorthwyydd cegin.

Bydd gofyn i chi brynu gwisg ac offer arbenigol (tua £250). Byddwn ni’n rhoi gwybodaeth a chostau i chi yn ystod eich cyfweliad. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am gyllid. Darperir loceri (bydd angen blaendal arnom ond cewch eich ad-dalu).

Explore in VR

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.