Skip to main content

Rheoli Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (Highfield) Lefel 3 - Dyfarniad

GCS Training
Lefel 3
Highfield
Llys Jiwbilî
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer unigolion sy’n gyfrifol am brynu, dosbarthu, cynhyrchu a gweini bwyd yn y diwydiant arlwyo, yn ogystal â’r rhai sy’n berchen ar/rheoli busnes arlwyo bach.

Cefnogir y cymhwyster gan Allergy UK, sy’n ei ystyried yn hyfforddiant addas ar gyfer lleoedd arlwyo a hoffai wneud cais am eu Cynllun Ymwybyddiaeth o Alergedd.

Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys rôl y rheolwr o ran sicrhau bod cynhwysion bwyd ac alergenau’n cael eu rheoli’n effeithiol, gweithdrefnau sy’n ymwneud â chyfleu gwybodaeth am gynhwysion o’r cyflenwr i’r defnyddiwr, pwysigrwydd gweithredu rheolaethau i atal halogiad o’r cynhwysion alergenaidd, a’r dulliau ar gyfer rheoli cynhwysion, rheolaethau a gweithdrefnau.

Gwybodaeth allweddol

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu mewn un diwrnod, mewn lleoliad a fydd yn cael ei gadarnhau pan fyddwch yn cadw lle, a bydd yn cael ei asesu trwy arholiad amlddewis.

Os oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol, bydd angen o leiaf chwe wythnos o rybudd arnom i roi’r prosesau gofynnol ar waith.

Os byddwch yn cadw lle o fewn y cyfnod hwn o chwe wythnos a bod angen cymorth ychwanegol arnoch, dylech ystyried newid i ddyddiad diweddarach neu rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cadw lle.