Skip to main content

Safon Uwch Saesneg Iaith

Amser-llawn
Lefel 3
A Level
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Byddwch yn datblygu pecyn cymorth dadansoddol o derminoleg ramadegol a damcaniaethau ieithyddol a fydd yn eich galluogi i ddadansoddi unrhyw destun. Mae hyn yn cynnwys modiwlau iaith lafar ac iaith dros amser, ynghyd â phrosiect ymchwil annibynnol. 

Byddwch yn canolbwyntio ar sut mae iaith yn adlewyrchu ac yn llunio pŵer yn ein byd ac rydym yn archwilio sut mae pobl yn addasu iaith i weddu i wahanol ddibenion a chyd-destunau. Byddwch hefyd yn ysgrifennu mewn amrywiaeth o genres ac yn dysgu sut i ddefnyddio’ch pecyn cymorth i ddadansoddi’ch ysgrifennu eich hun. 

Amcanion: 

  • Datblygu diddordeb mewn Saesneg a’i fwynhau 
  • Cymhwyso dealltwriaeth o gysyniadau a dulliau priodol i ddadansoddi’r iaith Saesneg 
  • Ymchwilio’n annibynnol i iaith ar waith.

Canlyniadau: 

  • Byddwch yn gallu archwilio’r iaith Saesneg mewn amrywiaeth o gyd-destunau 
  • Byddwch wedi datblygu gwybodaeth o systemau’r iaith Saesneg a materion cysylltiedig ag iaith a’i defnydd 
  • Byddwch wedi datblygu eich sgiliau creadigol eich hun.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf saith gradd A*-C ar lefel TGAU 
  • Mae gradd B mewn TGAU Saesneg Iaith yn hanfodol 
  • Mae gradd B mewn Saesneg Llenyddiaeth yn ddymunol 

Cewch eich addysgu gan ddau ddarlithydd, am bedair gwers yr wythnos, sef 4.5 awr ar gyfer myfyrwyr UG ac U2. Bydd asesiadau yn cynnwys aseiniadau wedi’u hamseru, cyflwyniadau a ffug arholiad adeg y Nadolig. 

Yn Safon UG: 

  • Uned  1 – Archwilio Iaith – arholiad 1.5 awr 
  • Uned  2 – Materion Iaith ac Ysgrifennu Beirniadol Gwreiddiol – arholiad 2 awr 

Yn Safon Uwch:

  • Uned  3 – Iaith Dros Amser – arholiad 1.5 awr 
  • Uned  4 – Testunau Llafar ac Ailgastio Creadigol – arholiad 2 awr 
  • Uned  5 – Iaith a Hunaniaeth – Asesiad nad yw’n arholiad 
  • Ymchwiliad 2,500-3,500 gair i’r iaith ar waith. 

Astudio yn y brifysgol a gyrfaoedd mewn Saesneg Iaith. Gallai’r gyrfaoedd hyn gynnwys ysgrifennu creadigol, newyddiaduraeth, hysbysebu a chyfathrebu, ieithyddiaeth gymhwysol, fforensig a chyfrifiadurol, ieithoedd modern, cyfieithu neu addysgu.