Skip to main content

Coginio ac Arlwyo Proffesiynol Lefel 2 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 2
VTCT
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn dysgu am bwysigrwydd lletygarwch proffesiynol yn y DU ac i economi ein rhanbarth ein hunain. Byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio’n llwyddiannus yn y diwydiant, gan gynnwys sut i gyfathrebu’n effeithiol â chwsmeriaid a’ch tîm, datblygu syniadau ar gyfer bwydlenni, paratoi a gweini bwyd a diod.

Byddwch yn cwblhau Diploma Cogydd a Thystysgrif Gwasanaeth Bwyd. Byddwch yn cwblhau amrywiaeth o asesiadau i ddatblygu eich gallu i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog, mewn amgylchedd arlwyo masnachol.

Byddwch hefyd yn astudio Mathemateg, Saesneg Iaith, Llythrennedd Digidol a Chyflogadwyedd perthnasol, trwy ein rhaglen Cymorth Sgiliau.

Gwybodaeth allweddol

Byddwch yn cwblhau asesiadau ymarferol yn y Vanilla Pod a’r ceginau masnachol.

Mae unedau theori yn cynnwys cwestiynau amlddewis, aseiniadau ysgrifenedig a phrofion byr.

Graddau’r unedau yw pasio / teilyngdod / rhagoriaeth.

Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau Coginio ac Arlwyo Proffesiynol Lefel 3 neu Diploma Lefel 3 mewn Twristiaeth Uwch.

Bydd gofyn i chi brynu gwisg ac offer arbenigol (tua £250).

Byddwn ni’n rhoi gwybodaeth a chostau i chi yn ystod eich cyfweliad. Mae’n bosibl y byddwch yn gallu gwneud cais am gyllid.

Darperir loceri (bydd angen blaendal arnom ond cewch eich ad-dalu).

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.