Skip to main content

Myfyrwyr GCS yn gyntaf ac yn ail yn rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

Mae myfyrwyr Peirianneg o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dod yn gyntaf ac yn ail yn rownd derfynol Cystadleuaeth Sgiliau Electroneg Cymru Gyfan a gynhaliwyd yn ddiweddar.

Enillodd Niko Leuchtenberg a Matthew Sutch, sy'n astudio tuag at ennill Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg (Technoleg Ddigidol) ar gampws Tycoch, y gwobrau Aur ac Arian yn y digwyddiad a gynhaliwyd yng Ngholeg Cambria.

Roedd tair adran ar wahân yn y rownd derfynol - adeiladu cylched, prototeip o gylched ac arholiad theori - ac roedd rhaid i bob un o'r 15 cystadleuydd eu cwblhau o fewn amser penodedig.

“Roedd Niko a Matthew – ynghyd â Jack Rees ac Alex Hall oedd hefyd yn rownd derfynol Cymru gyfan - wedi perfformio'n wych ar y diwrnod ac yn llysgenhadon arbennig i'r coleg,” dywedodd y darlithydd Steve Williams. “Mae ennill Aur ac Arian mewn digwyddiad o fri fel hwn yn llwyddiant rhagorol ac mae'r tîm addysgu Peirianneg yn falch iawn o bawb a gymerodd ran.”