Skip to main content
Students

Rory yn cyrraedd y rhestr fer

Mae myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe yw’r cyntaf o sefydliad addysgol yng Nghymru i gael ei roi ar y rhestr fer yng nghystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn Cymdeithas Frenhinol Economeg.

Cafodd Rory Daniels, myfyriwr-lywodraethwr sy’n astudio Safon Uwch ar gampws Gorseinon, ei roi ar y rhestr fer derfynol o 20 a gafodd eu dewis allan o 2000 o gystadleuwyr.

“Mae myfyrwyr o 30 o wahanol wledydd yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon ac mae’r rhan fwyaf sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gorffennol wedi dod o ysgolion nodedig fel Eton, Westminster a Harrow, felly mae’n wych gweld myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe yn cymryd ei le yn eu plith,” dywedodd Bruce Fellowes, Arweinydd y Cwricwlwm Economeg.

Yn ystod tymor y gwanwyn bob blwyddyn, mae unrhyw fyfyrwyr sy’n astudio cymhwyster Safon Uwch neu Fagloriaeth Ryngwladol y DU yn cael eu gwahodd i ysgrifennu traethawd gan ddefnyddio elfennau allweddol o’u hastudiaethau, enghreifftiau o’r byd o’u hamgylch a thrafodaeth lawn dychymyg.

Beirniadwyd gwaith Rory gan banel o arbenigwyr gan gynnwys yr Athro Syr Charles Bean (Ysgol Economeg Llundain, gynt o Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr a Chyn-lywydd RES), Stephanie Flanders (JP Morgan) a’r Athro Jonathan Haskel (Coleg Imperial, Llundain).

Trefnir cystadleuaeth Economegydd Ifanc y Flwyddyn gan Gymdeithas Frenhinol Economeg a Tutor2u.