Skip to main content

Sbaeneg Rhan-amser

Rhan-amser
Lefel 1
Tycoch
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Trwy gydol y flwyddyn, rydyn ni’n cynnig ystod o ddosbarthiadau wedi’u teilwra i’ch lefel hyfrededd, gan roi cyfle i chi ymgymryd ag un rhaglen yn unig neu symud ymlaen yn raddol drwy’r camau. Os nad yw’r cwrs rydych chi’n dymuno ymgymryd ag ef ar gael, gwiriwch y rhestr nes ymlaen.

Sbaeneg ar gyfer Gwyliau

Mae’r dosbarthiadau hyn yn addas ar gyfer unigolion sy’n bwriadu ymweld â Sbaen neu wledydd Sbaeneg eu hiaith. Nid yw’r dosbarthiadau yma ar gyfer pobl sy’n meddu ar sgiliau Sbaeneg da, maent ar gyfer unigolion sy’n newydd i’r iaith. Mae’r cwrs yn ymdrin â thestunau hanfodol megis archebu bwyd a diod, bwcio llety ac ymweld â swyddfeydd twristiaeth. Trwy gwblhau gwersi rhyngweithiol ac ymarferion ymarferol, bydd myfyrwyr yn dysgu geirfa ac ymadroddion allweddol fel y gallant gynnal sgyrsiau sylfaenol yn Sbaeneg.

Cyfnod 1

Mae’r dosbarthiadau hyn ar gyfer dechreuwyr llwyr. Maent yn ymdrin â phynciau fel cyflwyno’ch hun, (enw, cenedligrwydd, rhifau, proffesiwn...) yn ogystal â phynciau y byddai twristiaid yn dod ar eu traws wrth deithio mewn gwlad lle mae’r iaith yn cael ei siarad. Tybir nad oes gan gyfranogwyr unrhyw brofiad yn yr iaith.

Cyfnod 2/3

Mae’r cwrs hwn yn cynnig dilyniant naturiol i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau naill ai cyfnod 1 neu gyfnod 2 a bydd yn canolbwyntio ar ychwanegu mwy o eirfa a strwythur at eu gwybodaeth bresennol. Bydd myfyrwyr hefyd yn magu hyder wrth ddefnyddio’r iaith pan fyddant ar wyliau mewn gwlad Sbaeneg ei hiaith.

Cyfnod 3/4

Mae'r cwrs hwn yn ddilyniant naturiol i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau’r camau blaenorol. Bydd yn parhau i archwilio sefyllfaoedd gwyliau, gan ychwanegu mwy o gynnwys at y sgyrsiau y gellid dod ar eu traws wrth deithio i wlad Sbaeneg ei hiaith. Yn ystod y cwrs fe welwch y bydd eich geirfa, eich gramadeg a’ch hyder yn cynyddu.

Gwybodaeth allweddol

Ni cheir arholiad ond cewch eich asesu’n anffurfiol drwy gydol y cwrs.

Cyrsiau tebyg

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Spanish Stage 1 (Sept Start)
Cod y cwrs: ZA264_P01
15/09/2026
Tycoch
10 weeks
Tuesday
6:30 - 8:30pm
£55.00
Spanish Stage 2 (Jan Start)
Cod y cwrs: ZA264_P02
05/01/2027
Tycoch
10 weeks
Tuesday
6:30 - 8:30pm
£55.00
Spanish Stage 1 (Jan Start)
Cod y cwrs: ZA264_P03
07/01/2027
Tycoch
10 weeks
Thursday
6:30 - 8:30pm
£55.00