Skip to main content

Sgiliau a Strategaethau Cwnsela Lefel 1

Rhan-amser
Lefel 1
Tycoch
Chwe wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae ein cwrs Lefel 1 mewn Sgiliau a Strategaethau Cwnsela yn gwrs diddorol a rhagarweiniol i’r rhai a hoffai archwilio maes cwnsela.

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i chi i faes cwnsela ac mae’n ddelfrydol i unigolion sy’n gobeithio ennill sgiliau cwnsela sylfaenol y gellir eu cymhwyso mewn lleoliadau amrywiol. 

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Addysgu wyneb yn wyneb (bob nos Fercher 6pm-8pm).

Asesir y cwrs trwy chwarae rôl/efelychu/cwblhau llyfr gwaith. 

Ar ôl astudio’r cwrs hwn, gallech symud ymlaen i’r cwrs Lefel 2 Diploma mewn Sgiliau ar gyfer Astudiaethau Pellach, neu os byddwch yn cwblhau asesiad mynediad yn llwyddiannus gallwch symud ymlaen yn syth i’r cwrs Mynediad i Sgiliau Cwnsela a Seicoleg. 

 Fel myfyriwr, byddwch yn dysgu am:

  • Wahanol strategaethau helpu
  • Cyfrifoldebau, sgiliau ac agweddau cwnselwyr
  • Defnyddio sgiliau holi a gwrando
  • Deall y defnydd o gwnsela mewn gwahanol leoliadau
  • Cost y cwrs: £50.