Skip to main content

Seicoleg Gymhwysol Lefel 3 - Tystysgrif Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Certificate
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Seicoleg yw’r astudiaeth wyddonol o’r meddwl ac ymddygiad dynol. Trwy gydol y cwrs, byddwch yn ymchwilio i amrywiol ddamcaniaethau seicolegol, cysyniadau, a dulliau ymchwilio ymarferol. Trwy astudio senarios bywyd go iawn a chymryd rhan mewn gweithgareddau ymarferol rhyngweithiol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o’r ffactorau sy’n llywio ymddygiad dynol a’r effaith a gânt ar unigolion a chymdeithas.

Amcanion y cwrs:

  • Datblygu gwybodaeth ynghylch sut mae dulliau seicolegol yn egluro ymddygiad
  • Deall y broses wyddonol o ymchwilio o’r cysyniad i’r diwedd
  • Archwilio sut mae ymddygiad a dewisiadau ffordd o fyw yn effeithio ar iechyd a lles, fel camddefnyddio alcohol, ysmygu a gamblo
  • Cael mewnwelediad i wahanol esboniadau am droseddoldeb a dadansoddi triniaethau posibl.

Canlyniadau’r cwrs:

  • Cymhwyso eich gwybodaeth i senarios bywyd go iawn, gan gynnwys ymddygiad ymosodol, hysbysebu a rhywedd
  • Cynllunio, paratoi a chwblhau eich astudiaeth ymchwil eich hun
  • Egluro pam mae unigolion yn ymddwyn mewn ffordd sy’n effeithio ar iechyd ac ymddygiad troseddol ac atebion posibl.

Gwybodaeth allweddol

  • Saith gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Mathemateg, Saesneg Iaith a Gwyddoniaeth
  • Mae diddordeb brwd mewn ymddygiad dynol, sgiliau dadansoddi cryf, a galluoedd cyfathrebu ysgrifenedig a geiriol yn hanfodol
  • Does dim angen gwybodaeth flaenorol o seicoleg, gan y bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn y pwnc.

Asesu:

Blwyddyn 1:

  • Dulliau a Chymwysiadau Seicolegol – Arholiad a asesir yn allanol
  • Cynnal Gwaith Ymchwil Seicolegol – Tri aseiniad a asesir yn fewnol.

Meini prawf graddio:

  • Arholiad: 50%
  • Aseiniadau: 50%

Blwyddyn 2:

  • Seicoleg Iechyd – Arholiad a asesir yn allanol
  • Seicoleg Droseddol a Fforensig – Tri aseiniad a asesir yn fewnol.

Meini prawf graddio:

  • Arholiad: 50%
  • Aseiniadau: 50%

Mae cwblhau cwrs BTEC Seicoleg Gymhwysol yn agor llwybrau cyffrous ar gyfer astudiaethau pellach a gyrfaoedd yn y dyfodol. Gyda sylfaen gadarn mewn seicoleg, gallwch ddilyn astudiaethau pellach mewn cyrsiau addysg uwch fel gradd Baglor mewn Seicoleg neu feysydd cysylltiedig. Mae’r cymhwyster hwn hefyd yn agor y drws i amrywiaeth o yrfaoedd lle mae deall ymddygiad dynol yn cael ei werthfawrogi, gan gynnwys cwnsela, gwaith cymdeithasol, ymchwil marchnata, ac adnoddau dynol.

Yn ogystal, mae’r cwrs hwn yn gwella’r sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr, fel meddwl yn feirniadol, datrys problemau, ymchwil a sgiliau cyfathrebu. Bydd yr wybodaeth a’r galluoedd a enillwyd trwy’r cwrs BTEC Seicoleg Gymhwysol yn eich grymuso i wneud penderfyniadau gwybodus a ffynnu mewn amrywiaeth o leoliadau academaidd a phroffesiynol.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.